Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Polisi Llywodraeth Cymru yw y dylid cynnal etholiad y Senedd ar 6 Mai fel y trefnwyd, ac mae angen i bawb sy'n rhan o'r etholiad baratoi ar y sail honno. Rydym yn ddiolchgar i bawb sy'n gweithio mor galed i sicrhau y gellir cynnal yr etholiad yn ddiogel.

Fodd bynnag, o ystyried llwybr ansicr y pandemig, mae angen inni hefyd baratoi ar gyfer senario lle y gallai fod angen gohirio'r etholiad.

Rwyf heddiw’n cyflwyno Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) i'r Senedd. Cytunodd y Senedd, yn dilyn y ddadl yn y cyfarfod llawn ddoe, y bydd y Bil yn cael ei drin fel Bil Brys y Llywodraeth. Rwyf hefyd wedi gosod Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Bil.

Mae Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) yn gwneud darpariaethau i ymateb i'r risgiau posibl i'r etholiad cyffredinol arferol ar gyfer aelodaeth o'r Senedd sy'n deillio o bandemig y coronafeirws, gyda'r nod o sicrhau y gellir gweinyddu'r etholiad a bwrw ymlaen yn ddiogel ac y gall yr etholwyr gymryd rhan a phleidleisio, neu, dan amgylchiadau eithriadol, y gellir gohirio'r etholiad os oes angen. Prif amcan Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod yr etholiad yn mynd rhagddo ar 6 Mai 2021 yn ôl y bwriad, ac mae'r addasiadau a wneir gan y Bil yn fesurau wrth gefn doeth i sicrhau y gall Swyddogion Canlyniadau gynnal yr etholiad yng nghyd-destun y pandemig sy'n datblygu. Dim ond ar gyfer yr etholiad cyffredinol arferol sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2021 y bydd y Bil yn gymwys ac ni fydd yn gymwys i unrhyw etholiadau dilynol.

Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau sy'n: -

  • darparu ar gyfer cyfnod diddymu byrrach ar gyfer y Senedd cyn y diwrnod pleidleisio;
  • diogelu'r cyfnod o amser y mae'n rhaid cynnal cyfarfod cyntaf y Senedd newydd a etholwyd ar ôl etholiad 2021 ynddo;
  • darparu pŵer i’r Llywydd, yn dilyn cynnig gan y Prif Weinidog, ohirio'r etholiad o 6 Mai 2021 am reswm sy'n ymwneud â phandemig y coronafeirws tan ddyddiad nad yw'n hwyrach na 5 Tachwedd 2021, a phennu dyddiad ar gyfer y diwrnod pleidleisio os bydd y Senedd yn cytuno drwy benderfyniad a wneir gan fwyafrif o ddwy ran o dair o gyfanswm nifer y seddi yn y Senedd – mae'r Bil yn cynnig rôl i'r Comisiwn Etholiadol roi cyngor ar fater gohirio os bydd y Llywydd neu'r Prif Weinidog yn gofyn amdano;
  • sicrhau bod pŵer presennol y Llywydd i amrywio dyddiad etholiad 2021 yn parhau i fod yn gymwys i'r etholiad cyffredinol arferol os caiff y dyddiad pleidleisio ar gyfer yr etholiad ei ohirio;
  • galluogi is-etholiad i lenwi swydd wag etholaethol sy'n codi ar ôl 6 Mai 2021 i gael ei gynnal ar ddyddiad a bennir gan y Llywydd ar ôl ymgynghori â Gweinidogion Cymru;
  • galluogi is-etholiad i lenwi swydd wag am aelodaeth o gyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned i gael ei ohirio tan ddyddiad nad yw'n hwyrach na 5 Tachwedd 2021;
  • gwneud addasiadau canlyniadol i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (fel y'i diwygiwyd); a
  • rhoi pŵer gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru er mwyn gwneud unrhyw ddarpariaethau cysylltiedig, atodol, canlyniadol, trosiannol, darfodol neu arbed sy'n briodol yn eu barn hwy at ddibenion gweithredu'r Ddeddf yn llawn, neu mewn cysylltiad â hynny.

Rydym hefyd yn parhau i adolygu pleidleisio cynnar yn etholiad y Senedd rhag ofn y bydd cyffredinrwydd y pandemig yn golygu nad yw'n ddiogel cynnal yr etholiad ym mis Mai fel y bwriedir. Mewn amgylchiadau eithriadol o'r fath, rhaid inni ystyried pob opsiwn i alluogi pleidleiswyr i gymryd rhan yn yr etholiad.

Hyd yma, mae trywydd y pandemig wedi bod yn anodd ei rag-weld ac mae'n anodd gwybod beth fydd statws y pandemig pan fwriedir cynnal yr etholiad. Nid yw'r diffyg hyblygrwydd sydd ar gael ar gyfer gwneud newidiadau i reolau etholiadol yn briodol ar gyfer ymateb i'r pandemig, sydd hyd yma wedi golygu gweithredu yn ddi-oed ac yn ymarferol wrth ymateb yn gyflym i sefyllfa sy'n newid yn sydyn. O dan yr amgylchiadau hyn, byddai'n anghyfrifol inni fethu â pharatoi. Felly, mae'r Bil yn fesur doeth i sicrhau bod trefniadau wrth gefn ar waith os bydd y pandemig yn fygythiad difrifol i iechyd y cyhoedd ac i’r broses o gynnal etholiad arfaethedig y Senedd.