Neidio i'r prif gynnwy

Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 6 Gorffennaf 2021, cyhoeddodd y Cwnsler Cyffredinol gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddeddfu ar gyfer Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) fel rhan o'r rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer blwyddyn gyntaf tymor y Senedd hon.

Heddiw, rwy'n cyhoeddi adroddiad cryno'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Bil drafft, a ddatblygwyd mewn partneriaeth gymdeithasol ac a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2021. Roedd y Bil drafft yn cynnwys darpariaethau i roi partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru ar sail ffurfiol drwy greu cyngor partneriaeth gymdeithasol, cryfhau caffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol, gosod dyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar gyrff cyhoeddus penodol a dyletswydd gwaith teg ar Weinidogion Cymru.

Daeth yr ymgynghoriad ar y Bil drafft i ben ar 23 Ebrill. Cafwyd 85 o ymatebion i'r ymgynghoriad, sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd wrth inni fwrw ymlaen i gwblhau Bil i'w gyflwyno yn nhymor y Senedd.  Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad am eu barn ac am ein helpu i lunio cam nesaf ein cynigion er mwyn bwrw ymlaen â phartneriaeth gymdeithasol a gwaith teg yng Nghymru.

Roedd cytundeb cyffredinol y byddai’r ddeddfwriaeth arfaethedig yn cryfhau'r trefniadau presennol ar gyfer partneriaeth cymdeithasol yng Nghymru ac mae hynny’n cadarnhau pwysigrwydd y flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i’r Bil. 

Mae'r adroddiad cryno ar gael yma.