Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw cyhoeddais Fil Drafft Llywodraeth Leol (Cymru) ar gyfer ymgynghori.

Mae’r cynigion yn y Bil Drafft Llywodraeth Leol (Cymru) fydd yn cwblhau'r rhaglen o uno Awdurdodau Lleol ac yn nodi fframwaith deddfwriaethol newydd a diwygiedig ar gyfer democratiaeth, atebolrwydd, perfformiad ac elfennau o gyllid Awdurdodau Lleol. Bydd hefyd yn sefydlu comisiwn statudol, Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus.

Gosodwyd ein gweledigaeth ar gyfer Llywodraeth Leol sy’n seiliedig ar Gynghorau gweithredol sy’n gweithio i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus modern, hygyrch, o safon uchel gydag a dros eu cymunedau lleol yn y Papur Gwyn Diwygio Llywodraeth Leol: Grym i Bobl Leol, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror.

Rydym yn cydnabod bydd y weledigaeth hon, a'n huchelgais ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus o'r radd flaenaf, dim ond cael eu gwireddu drwy weithlu gwasanaethau cyhoeddus o'r radd flaenaf gyda'r sgiliau cywir a'r gefnogaeth i'w cyflawni. Mae ymroddiad a rhagoriaeth gweithlu'r gwasanaeth cyhoeddus yn allweddol i drawsnewid.

Gosodwyd cynigion ar gyfer Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus i ddatblygu a lledaenu arfer da mewn trefniadau’r gweithlu ar draws y gwasanaeth cyhoeddus yn y Papur Gwyn a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2014. Mae ein Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus anstatudol wedi bod yn gweithredu ers mis Medi 2015 gan ddefnyddio Cyngor Partneriaeth y Gweithlu fel ei fan cyfeirio cynradd. Rydym wedi ymrwymo i barhau ein model cryf o bartneriaeth gymdeithasol drwy Gyngor Partneriaeth y Gweithlu wrth i ni ddatblygu ein rhaglen o ddiwygio. Yn wahanol i Loegr, rydym wedi cadw a chryfhau ‘cod dwy haen’ i warchod gweithlu’r sector cyhoeddus sy’n cael eu heffeithio gan gontractau allanol yn ceisio cyflogi gweithwyr newydd ar dermau ac amodau gwaeth.

Roedd mwyafrif llethol ymatebion yr ymgynghoriad i’r Papur Gwyn o blaid rhoi sail statudol i’r Comisiwn. Mae’r Bil Drafft yn cynnwys darpariaeth o’r fath.

Mae’r Bil Drafft wedi’i ffurfio gan y cannoedd o ymatebion a derbyniwyd ynglŷn â’r ymgynghoriadau ar y ddau Bapur Gwyn hyn.

Ym mis Mehefin, fe gyhoeddais yr opsiwn y mae Llywodraeth Cymru'n ei ffafrio o ran patrwm Llywodraeth Leol yng Nghymru yn y dyfodol. Cyhoeddwyd dau o fapiau oedd yn nodi'r opsiwn rydym ni'n ei ffafrio ar gyfer strwythur De, Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer y dyfodol, gyda dau opsiwn (dau neu dri Awdurdod Lleol) ar gyfer y Gogledd.

Heddiw yw cychwyn ein hymgynghoriad ffurfiol ar ein cynigion ar gyfer y patrwm o Awdurdodau Lleol.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i’r cyhoedd, Awdurdodau Lleol ac eraill i wneud sylwadau ar y cynigion, yn cyflwyno i’r Llywodraeth Cymru nesaf gyfle i wneud penderfyniad cynnar ar sut i fwrw ati, gyda’r fantais o gynigion deddfwriaethol datblygedig, a gynorthwyir gan ddealltwriaeth o farn rhanddeiliaid.

Mae Memorandwm Esboniadol drafft gan gynnwys Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft ac asesiadau effaith eraill wedi ei gyhoeddi gyda’r Bil Drafft. Wrth baratoi’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, cynhaliwyd ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid allweddol, arbenigwyr technegol, academyddion, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a swyddogion uwch Awdurdodau Lleol.

Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn dangos yn gyffredinol, arbediad net amcan I Awdurdodau Lleol dros ddeng mlynedd byddai rhwng £529m a £650m. Hwn yw’r un fath o arbediad â’r rhai a amcangyfrifwyd gan y CIPFA yn ‘The Transitional Costs, Benefits and Risks of Local Government Reorganisation’, a gyhoeddwyd yn hwyr yn 2014.

Byddaf yn gwneud datganiad llafar yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma ac rwy’n edrychymlaen at dderbyn sylwadau’r Aelodau ar y Bil Drafft dros y misoedd nesaf.