Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod mewn trafodaethau gyda Swyddfa Cymru dros y misoedd diwethaf mewn perthynas â Bil Cymru drafft yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae ef nawr yn cynnig addasu ei Fil a’i gyflwyno i Senedd San Steffan yn hwyrach yn y flwyddyn.

Heddiw rwy’n cyflwyno Bil drafft Llywodraeth a Chyfreithiau yng Nghymru gerbron y Cynulliad, ynghyd â Chrynodeb Esboniadol. Cawsant eu paratoi gan Lywodraeth Cymru er mwyn dangos sut, yn ein barn ni, y dylid mynd ati i sicrhau’r setliad datganoli sydd ei angen ar Gymru yn y tymor hir. Byddaf yn gwneud Datganiad Llafar am y Bil brynhawn yfory.