Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyhoeddais ddogfen ymgynghori ar Fil Drafft Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru) ar 15 Gorffennaf 2015 a daeth yr ymgynghoriad hwnnw i ben ar 11 Rhagfyr 2015. Cyhoeddwyd hefyd ail ddogfen ymgynghori ar gyfer plant a phobl ifanc, yn amlinellu'r cynigion.  

Roedd y ddogfen ymgynghori'n gofyn am farn pobl ynghylch cynnig Llywodraeth Cymru i leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol drwy gyflwyno deddfwriaeth sy'n gosod isafbris uned ar gyfer alcohol yng Nghymru.  

Mae'n bleser gennyf heddiw gyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw, gan gynnwys y rhai i'r fersiwn ar gyfer plant a phobl ifanc.  Mae ar gael yn:

http://gov.wales/consultations/healthsocialcare/alcohol/?skip=1&lang=cy

Bydd gosod isafbris uned ar gyfer alcohol nawr yn fater i Lywodraeth nesaf Cymru ei ystyried wedi etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol.