Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

 http://llyw.cymru/statistics-and-research/research-likely-impact-public-attitudes-towards-minimum-unit-price-alcohol/?skip=1&lang=cy http://llyw.cymru/statistics-and-research/research-likely-impact-public-attitudes-towards-minimum-unit-price-alcohol/?skip=1&lang=cyCyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y bwriad i gyflwyno Bil drafft ar gyfer ymgynghoriad, sy’n pennu isafbris ar gyfer uned o alcohol, ar 9 Mehefin yn ystod y datganiad deddfwriaethol ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru).

Fel y Dirprwy Weinidog Iechyd, â chyfrifoldeb am gamddefnyddio sylweddau, mae'n bleser gen i gyhoeddi heddiw Fil drafft Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru) i ymgynghori arno. Mae fersiwn o'r papur ymgynghori ar gyfer plant a phobl ifanc hefyd yn cael ei gyhoeddi.

Mae camddefnyddio alcohol yn arwain at amrywiaeth o niweidiau i iechyd a niweidiau cymdeithasol, yn arbennig ymysg lleiafrif sylweddol o bobl sy'n goryfed ac yn methu â gweld y niwed maent yn ei wneud i'w hunain a'r bobl o'u hamgylch. Yn 2013, roedd 467 o farwolaethau cysylltiedig ag alcohol yng Nghymru, ac amcangyfrifir bod camddefnyddio alcohol yn costio tua £109m y flwyddyn i GIG Cymru mewn derbyniadau i'r ysbyty yn unig.

Mae rhywfaint o gynnydd wedi cael ei wneud wrth leihau lefel yr alcohol sy'n cael ei yfed gan rai grwpiau oedran yng Nghymru, ond mae ymchwil yn dangos bod lefelau yfed ymhlith pobl ifanc yn parhau i beri pryder - roedd 17% o fechgyn a 14% o ferched 11 i 16 oed wedi yfed alcohol o leiaf unwaith yr wythnos yn 2009-10 (y data diweddaraf sydd ar gael).  

Mae gan lywodraethau rôl i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r niwed i iechyd sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol, a chreu'r amgylchedd cywir i gefnogi pobl i newid eu ffordd o fyw a chael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a'u lles yn yr hirdymor.

O ran alcohol, gallwn wneud hyn mewn nifer o ffyrdd. Un o'r mesurau pwysicaf sydd ar gael yw deddfwriaeth, gan gynnwys camau i reoli pris a fforddiadwyedd alcohol. Fel y gwyddom, mae hyn yn ffactor allweddol wrth leihau'r alcohol sy'n cael ei yfed, a’r niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol.

Mae tystiolaeth glir yn bodoli sy'n dangos bod pennu isafbris ar gyfer uned o alcohol yn cael effaith gadarnhaol ar y niwed i iechyd a niwed cymdeithasol gan mai pobl sy'n yfed lefelau niweidiol neu beryglus sy'n manteisio fwyaf.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Grŵp Ymchwil Alcohol Sheffield ym Mhrifysgol Sheffield, i ddangos effaith bosibl ystod o bolisïau prisio alcohol. Cyhoeddwyd yr adroddiad ar werthusiad yn seiliedig ar Fodel o isafswm pris uned o alcohol yng Nghymru1 ym mis Rhagfyr 2014. Daethpwyd i'r casgliad bod nifer o fanteision ynghlwm wrth gyflwyno'r polisi hwn yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod pennu isafbris yn fesur allweddol ar gyfer iechyd y cyhoedd y dylid ei ddatblygu yng Nghymru. Mae gwledydd eraill wedi cydnabod ei botensial i wella iechyd a lles, fel Llywodraeth Iwerddon, sydd hefyd yn awyddus i gyflwyno isafbris ar gyfer uned o alcohol. Mae Senedd yr Alban wedi pasio deddfwriaeth debyg - Alcohol (Minimum Pricing) (Scotland) Act 2012 - a chyfeiriwyd at y Ddeddf hon yn Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd i ystyried pwyntiau ynghylch cyfraith cystadleuaeth Ewropeaidd. Byddwn yn monitro canlyniad yr achos hwn yn agos.

Gan ystyried yr heriau sylweddol o ran iechyd y cyhoedd sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol, ni ddylem atal y broses o ddatblygu ein deddfwriaeth ein hun wrth aros am ganlyniad terfynol trafodaethau Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd ar ddeddfwriaeth yr Alban.  

Edrychaf ymlaen i glywed canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil drafft ac ymgysylltiad pellach â rhanddeiliaid, gan gynnwys unrhyw waith craffu y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn dymuno ei wneud ar y Bil drafft, fel bod Llywodraeth nesaf Cymru mewn sefyllfa i gyflwyno'r Bil yn gynnar yn y tymor nesaf.  

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 11 Rhagfyr, 2015.

 

 

[1] http://llyw.cymru/statistics-and-research/research-likely-impact-public-attitudes-towards-minimum-unit-price-alcohol/?skip=1&lang=cy