Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn y ddadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) yn y Cynulliad Cenedlaethol ddoe, rwyf heddiw’n lansio ymgynghoriad ffurfiol ar y ddogfen ddrafft ‘Gwybodaeth i Denantiaid Landlordiaid Cymdeithasol’.

Fel y gwyddoch, yn ystod fy ymddangosiad gerbron y Pwyllgor Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ac eto yn ystod y ddadl ar Egwyddorion Cyffredinol ddoe, rwyf wedi ymrwymo i ymgynghori’n eang ar y ddogfen wybodaeth. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau y rhoddir gwybodaeth glir i’r holl denantiaid ynglŷn â’r hyn y bydd y ddeddfwriaeth yn ei olygu iddynt, os caiff ei phasio gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Yr wyf yn annog pawb â diddordeb yn y mater hwn i ymateb i’r ymgynghoriad. Yn benodol, dylai tenantiaid landlordiaid cymdeithasol a grwpiau tenantiaid achub ar y cyfle hwn i fynegi eu barn er mwyn sicrhau bod y ddogfen yn addas i’w diben ac yn diwallu anghenion tenantiaid ledled Cymru.

Mae’r ymgynghoriad ar gael ar: ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/gwybodaeth-ddrafft-ar-gyfer-dogfen-tenantiaid-landlordiaid-cymdeithasol a’r dyddiad cau yw 13 Medi.