Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn gynharach heddiw gosodwyd Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) a’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Bil gerbron y Senedd.

Dyma’r ail Fil yn rhaglen y Llywodraeth i wella hygyrchedd y gyfraith. Mae’n cyfrannu at ein amcanion drwy ddod â’r canlynol ynghyd a’u ffurfioli:

  • y trefniadau gweithdrefnol ar gyfer gwneud is-ddeddfwriaeth Gymreig; a’r
  • gofynion ar gyfer cyhoeddi Deddfau Senedd Cymru a phob is-ddeddfwriaeth Gymreig. 

Mae’r Bil hefyd yn diddymu, yn diwygio ac yn datgymhwyso mewn perthynas â Chymru ddarpariaethau a deddfiadau nad ydynt o unrhyw ddefnydd na budd ymarferol erbyn hyn. Bu “diddymiadau cyfraith statud” fel hyn yn nodwedd o waith Comisiwn y Gyfraith yn y gorffennol ond nid felly mewn blynyddoedd diweddar. Gall dileu darpariaethau diangen o’r llyfr statud helpu i’w “lanhau” gan ddod ag eglurder ynghylch y gyfraith sy’n berthnasol i Gymru.

Yn olaf, mae’r Bil technegol hwn yn gwneud mân ddiwygiadau i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. Mae hyn oherwydd ein profiadau o ddefnyddio’r Ddeddf honno ers iddi gael ei phasio ac oherwydd y trefniadau codeiddiedig sy’n cael eu cyflwyno ar gyfer gwneud a chyhoeddi deddfwriaeth Gymreig. 

Byddaf yn gwneud datganiad deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn fory a fydd yn rhoi mwy o fanylion am yr holl bethau hyn. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â’r Aelodau wrth i’r Senedd graffu ar Fil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru).