Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Gosodwyd y Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) heddiw.
Bydd y Bil, sy’n rhan bwysig o agenda symleiddio ehangach Llywodraeth Cymru, yn gwneud newidiadau gyda’r nod o symleiddio a gwella is-ddeddfau fel dull rheoleiddio ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru. Er mwyn hwyluso hygyrchedd, ac er mwyn datblygu llyfr statud i Gymru, bydd y Bil hefyd yn cydgrynhoi, mewn Deddf ar gyfer Cymru, ddarpariaethau ar gyfer gwneud, cadarnhau a gorfodi is-ddeddfau a gynhwyswyd o’r blaen yn Neddf Llywodraeth Leol 1972.
Mae’r Bil yn gwneud darpariaeth i:
- ailddatgan pŵer cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor sir i wneud is-ddeddfau ar gyfer rheolaeth dda a llywodraeth a rhwystro ac atal niwsansau (Adran 2 o’r Bil);
- ailddatgan pŵer awdurdod deddfu (sy’n cynnwys awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn ogystal â chynghorau bwrdeistref sirol, cynghorau sir a chynghorau cymuned) i ddirymu is-ddeddf pan na fo pŵer arall i wneud hynny ac yn ailddatgan pŵer Gweinidogion Cymru i ddirymu is-ddeddfau y mae’n ymddangos eu bod yn anarferedig (Adrannau 4 a 5);
- manylu ar y weithdrefn amgen ar gyfer is-ddeddfau nad oes gofyn i Weinidogion Cymru eu cadarnhau, a fydd yn berthnasol i’r is-ddeddfau a wneir o dan y deddfiadau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1 (Adran 6);
- ailddatgan a diwygio’r weithdrefn ar gyfer is-ddeddfau y mae gofyn i Weinidogion Cymru eu cadarnhau (Adran 7);
- manylu ar y materion ffurfiol, cychwyn a chyhoeddi ar gyfer is-ddeddfau sy’n destun y weithdrefn amgen a’r weithdrefn gadarnhau (Adran 8);
- caniatáu i Weinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio Rhan 1 a Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Bil i dynnu neu ychwanegu at yr is-ddeddfau nad oes gofyn eu cadarnhau ac y gellir cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig ar eu cyfer (Adran 9 ac 16);
- amlinellu’r fframwaith gorfodi o ran dirwyon; maint y dirwyon a’r pwerau ymafael mewn eiddo, ei gadw a’i fforffedu sydd ar gael er mwyn gorfodi is-ddeddfau penodol (Adrannau 10 ac 11);
- amlinellu’r drefn hysbysiadau cosb benodedig fel dull amgen o orfodi is-ddeddfau a wneir o dan y deddfiadau a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Bil (Adran 12 i 17);
- caniatáu i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau statudol ynghylch y gweithdrefnau ar gyfer gwneud is-ddeddfau, gorfodi is-ddeddfau ac unrhyw beth sy’n gysylltiedig â’r materion hyn (Adran 18);
- cynnwys dwy atodlen i’r Bil, mae’r gyntaf mewn dwy ran; mae rhan un o Atodlen 1 yn rhestru’r deddfiadau y gwneir is-ddeddfau oddi tanynt yn unol â’r weithdrefn amgen ac mae rhan dau o Atodlen 1 yn rhestru’r deddfiadau y gellir gorfodi is-ddeddfau oddi tanynt drwy gyfrwng cosbau penodedig (Atodlen 1 i’r Bil). Mae’r ail atodlen yn manylu ar yr holl fân ddiwygiadau a’r diwygiadau canlyniadol y mae’r Bil yn eu gwneud i ddeddfiadau eraill (Atodlen 2).
Byddaf yn gwneud datganiad deddfwriaethol yn y cyfarfod llawn yfory er mwyn cyflwyno’r Bil.