Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Medi 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth ddiwygio’r system gynllunio.  Ers datganoli, sefydlwyd polisïau cynllunio cenedlaethol diweddarach.  Mae’r polisïau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy, adnewyddu’r economi a thai fforddiadwy.  Er mwyn cyflawni hyn ar lefel leol, cyflwynwyd system newydd ar gyfer cynllunio lleol.  Mae gwaith hefyd ar y gweill i wella’r broses o wneud cais cynllunio. 

Mae Datganiad Ddeddfwriaethol 2011-16 yn cynnwys ymrwymiad i gyflwyno Bil Cynllunio i gyfuno’r ddeddfwriaeth bresennol a gwneud y system gynllunio’n fwy tryloyw a hygyrch.  Bydd Papur Gwyn yn amlinellu ein cynigion yn cael ei gyhoeddi yn ystod 2013, ac yna cyflwynir Bil Cynllunio gerbron y Cynulliad.

Cyflawni yw ein blaenoriaeth ar gyfer pedwerydd tymor y Cynulliad.  Mae’r system gynllunio yn ddull pwysig o gyflenwi ystod eang o bolisïau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, pan fo angen gwneud penderfyniadau cynaliadwy am ddatblygu a defnyddio tir yn y dyfodol.  Prif her y Bil Cynllunio fydd sefydlu fframwaith hyblyg fydd o gymorth i gyflawni polisïau Llywodraeth Cymru, mewn dull effeithiol ac effeithlon, tra’n cynnal hyder y cyhoedd ynghylch defnyddio a datblygu tir yn y dyfodol.  

Nid yw’r trefniadau ar gyfer darparu system gynllunio wedi newid llawer ers 1947.  Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am y fframwaith y mae’r system gynllunio yn gweithredu o’i mewn.  Mae pump ar hugain o awdurdodau cynllunio yn darparu’r system gynllunio yn lleol.  Cynhaliodd Pwyllgor Cynaliadwyedd blaenorol y Cynulliad Cenedlaethol Ymchwiliad i’r System Gynllunio yng Nghymru; cyhoeddwyd eu hadroddiad yn gynharach eleni.  Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth o’r pwysau sy’n cael ei wynebu gan swyddogion cynllunio lleol wrth ddarparu’r system gynllunio, gan gynnwys y cynnydd yn y galw am arbenigedd technegol arbenigol.  Mae Adolygiad Simpson Lleol, Rhanbarthol, Cenedlaethol: Pa wasanaethau yw'r rhai gorau i'w darparu ble? wedi dechrau ystyried swyddogaethau a chyfrifoldebau y system gynllunio yn y dyfodol. 

Fel rhan o’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y Bil Cynllunio heddiw, rwyf wedi cyhoeddi y byddwn yn sefydlu adolygiad annibynnol i ystyried yr opsiynau o ran sut i ddarparu system gynllunio yn y dyfodol.  Cynhelir yr adolygiad gan grŵp cynghori annibynnol o dan gadeiryddiaeth John Davies, cyn Gyfarwyddwr yr Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru. 

Mae’r grŵp cynghori annibynnol wedi cael y dasg o:

  • Nodi’r amcanion polisi allweddol fydd yn rhaid i’r system gynllunio eu cyflenwi yn awr ac yn y dyfodol;
  • Asesu trefniadau cyflawni sefydliadau ar hyn o bryd, gan nodi meysydd o arfer da a meysydd sydd angen eu gwella; a,
  • Cynnig opsiynau ar gyfer darparu’r system gynllunio yn y dyfodol, gan gynnwys gwasanaethau llunio cynlluniau a rheoli datblygiadau.

Bydd yr adolygiad yn cyhoeddi’r adroddiad erbyn diwedd Mai 2012, gan wneud argymhellion ynghylch:

  • Opsiynau ar gyfer darparu y system gynllunio yn y dyfodol, gan gynnwys dull a ffefrir;
  • Y ddeddfwriaeth sylfaenol a’r is-ddeddfwriaeth, a’r polisïau a’r canllawiau sydd eu hangen i gyflwyno’r opsiynau a nodwyd a’r dull a ffefrir;
  • Asesiad ledled Cymru o’r adnoddau sydd eu hangen, o ran niferoedd staff a chostau, i ddarparu’r opsiynau a nodwyd, a’r dull a ffefrir; ac
  • Unrhyw ffyrdd o gael canlyniadau cyflym, positif.

Bydd y Grŵp Cynghori Annibynnol yn galw am dystiolaeth yn ystod yr Hydref.