Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Gosodir y datganiad ysgrifenedig hwn o dan Reol Sefydlog 30:  “Hysbysu mewn perthynas â Biliau Senedd y DU”. Mae’n ymwneud â darpariaeth ym Mil Cymru (y Bil), a wneir trwy welliant, sy’n addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru, ond nad oes angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar ei gyfer o dan Reol Sefydlog 29.

Amcanion polisi datganedig Llywodraeth y DU ar gyfer y Bil yw gwneud Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) a Llywodraeth Cymru’n fwy atebol i bobl Cymru am godi’r arian y mae’n ei wario, a gwella’r system etholiadau i’r Cynulliad.

Y gwelliant perthnasol yw gwelliant rhif 1 yn y “Marshalled List of Amendments to be moved on Third Reading” sydd i’w weld ar wefan y Senedd trwy’r ddolen isod.  
Lords Amendments: Wales Bill (21st November 2014)  

Mae Cymal 13 o Fil Cymru’n darparu’r mecanwaith sy’n galluogi’r Cynulliad i sbarduno refferendwm ynghylch a ddylid cael cyfradd treth incwm i Gymru.  Caiff Prif Weinidog Cymru neu un o Weinidogion Cymru gyflwyno cynnig yn y Cynulliad y dylid gwneud argymhelliad i’w Mawrhydi i wneud Gorchymyn i gynnal refferendwm.

Ar 24 Tachwedd yn y Trydydd darlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi, cytunwyd ar welliant i gymal 13 o’r Bil sy’n ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i unrhyw gynnig o’r fath sy’n cael ei gyflwyno ddatgan ai 16 neu 18 oed fydd yr oedran pleidleisio yn y refferendwm arfaethedig. Cafodd gwelliannau canlyniadol eu gwneud i Atodlen 1 hefyd. Felly byddai’n ofynnol i Brif Weinidog Cymru neu Weinidogion Cymru, fel gofyniad  statudol newydd o dan Fil Cymru, gynnig yr etholfraint ar gyfer unrhyw refferendwm treth incwm, i’w ystyried gan y Cynulliad.  

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn ei bod yn briodol i’r darpariaethau hyn gael eu gwneud, a hynny trwy gyfrwng Bil Cymru, am na allai’r darpariaethau gael eu gwneud trwy Ddeddf Cynulliad.