Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

1. Gosodir y datganiad ysgrifenedig hwn o dan Reol Sefydlog 30 – Hysbysu mewn perthynas â Biliau Seneddol y Deyrnas Unedig. Mae Rheol Sefydlog 30 yn gofyn am osod datganiad ysgrifenedig yn nodi unrhyw ddarpariaethau mewn Bil perthnasol gan Senedd y Deyrnas Unedig sy'n addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol, y Cynulliad neu Gomisiwn y Cynulliad, lle nad oes angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol dan Reol Sefydlog 29.

2. Cyflwynwyd Bil Cymru (y “Bil”) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 7 Mehefin 2016. Mae'r Bil yn awr yn cwblhau cam Adroddiad Tŷ’r Arglwyddi. Mae fersiwn ddiweddaraf y Bil i'w gweld drwy’r ddolen isod:

http://services.parliament.uk/bills/2016-17/wales/documents.html


3. Mae'r datganiad hwn yn ychwanegol i'r datganiad cyntaf a osodwyd o dan Reol Sefydlog 30 ar 21 Tachwedd 2016. Roedd y datganiad hwnnw yn cynnwys addasiadau perthnasol i swyddogaethau sydd wedi'u cynnwys yn narpariaethau'r Bil fel y cafodd ei gyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi, ac fel y cynigiwyd ei ddiwygio gan Lywodraeth y DU erbyn i gam Tŷ'r Arglwyddi ddod i ben. Mae'r datganiad atodol hwn yn amlinellu, yn Atodiad 1, unrhyw addasiadau perthnasol i swyddogaethau sydd wedi'u cynnwys mewn gwelliannau a wnaed i'r Bil ar gam Adroddiad Tŷ'r Arglwyddi.  

Amcanion polisi

4. Amcanion Llywodraeth y DU ar gyfer y Bil yw gweithredu'r elfennau hynny o Bapur Gorchymyn Dydd Gŵyl Dewi sy'n ei gwneud yn ofynnol i newid deddfwriaeth. Mae'r Bil yn diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 er mwyn symud at ddatganoli yn seiliedig ar fodel cadw pwerau, ac mae hefyd yn datganoli pwerau penodol eraill a argymhellwyd gan Gomisiwn Silk.


Darpariaethau perthnasol yn y Bil

5. Mae Atodiad 1 yn crynhoi'r addasiadau i swyddogaethau o ganlyniad i welliannau a wnaed i’r Bil ar gam Adroddiad Tŷ'r Arglwyddi fel sy'n ofynnol yn ôl Rheol Sefydlog 30, yn ychwanegol at y rheini y rhoddwyd gwybod amdanynt eisoes yn y datganiad cyntaf o dan Reol Sefydlog 30.

Rhesymau dros wneud y darpariaethau hyn ym Mil Cymru

6. Ystyrir ei bod yn briodol i'r darpariaethau sy'n cael eu rhestru yn yr Atodiad i'r datganiad hwn gael eu cynnwys ym Mil Cymru, oherwydd ni fyddai'n bosibl i'r darpariaethau gael eu gwneud gan Ddeddf Cynulliad, neu byddai modd eu gwneud drwy Ddeddf Cynulliad gyda chydsyniad Gweinidogol y DU yn unig.