Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid
Cafodd Bil Cymru ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin ar 20 Mawrth 2014. Cafodd y Bil ei gyhoeddi’n wreiddiol ar ffurf drafft ar 18 Rhagfyr 2013 at ddibenion craffu cyn deddfu. Cyflwynodd y Pwyllgor Materion Cymreig adroddiad ar y Bil drafft ar 28 Chwefror 2014.
Mae’r datganiad ysgrifenedig hwn yn cael ei osod o dan Reol Sefydlog 30 – Hysbysu mewn perthynas â Biliau Senedd y Deyrnas Unedig. Mae’n ymwneud â darpariaethau yn y Bil sy’n addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru, ond nad oes angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar eu cyfer o dan Reol Sefydlog 29.
Yr amcanion polisi sydd wedi’u datgan gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â’r Bil yw peri bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) a Llywodraeth Cymru yn fwy atebol i bobl Cymru am godi’r arian y maent yn ei wario, a gwella system etholiadau’r Cynulliad
Er hwylustod wrth gyfeirio atynt, mae’r darpariaethau sy’n addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru’n cael eu disgrifio yn y drefn y gwelir hwy yn y Bil, sef cymalau 6, 8, 12, 16, 19, 20, 22, 23, 24 ac Atodlen 1.
Cymal 6 – Trethu: rhagarweiniol
Cymal 6 sy’n darparu’r strwythur y caiff Llywodraeth Cymru ddeddfu o’i fewn ynglŷn â threth. Mae Cymal 6 yn cyflwyno adran 116B newydd yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”). Mae isadrannau (5), (6) a (7) yn darparu y byddai’n rhaid i Weinidogion Cymru dalu cyflogau, treuliau a phensiynau’r gweision sifil hynny, pe bai’r Cynulliad yn penodi gweision sifil i gorff y byddai’n ei sefydlu i gasglu a rheoli trethi datganoledig.
Cymal 8 – cyfradd treth incwm Gymreig
Mae Cymal 8 yn ymdrin â chyfradd treth incwm Gymreig. Mae is-adran (1) yn mewnosod Pennod 2 yn y Rhan 4A newydd o Ddeddf 2006, sef adrannau 116D i 116K. Mae’r adran 116D newydd yn rhoi pŵer i’r Cynulliad i osod, drwy benderfyniad, gyfradd treth incwm Gymreig, i drethdalwyr yng Nghymru. Mae adran 116D(8) yn ei gwneud yn ofynnol i Reolau Sefydlog y Cynulliad sicrhau mai dim ond Prif Weinidog Cymru neu un o Weinidogion Cymru a gaiff wneud y cynnig ar gyfer penderfyniad ar gyfradd treth incwm Gymreig.
Mae’r adran 116J newydd yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru roi ad-daliad i unrhyw un o Weinidogion y Goron neu i unrhyw adran o Lywodraeth y Deyrnas Unedig, er enghraifft CThEM, am gostau gweinyddol a ysgwyddir wrth sefydlu cyfradd treth incwm Gymreig.
Cymal 12 – Cynnig ynglŷn â refferendwm gan y Cynulliad
Mae Cymal 12 yn darparu’r mecanwaith y caiff y Cynulliad sbarduno refferendwm ar sefydlu gyfradd treth incwm Gymreig drwyddo. Mae is-adrannau (1) a (2) yn pennu y caiff Prif Weinidog Cymru neu un o Weinidogion Cymru gynnig penderfyniad yn y Cynulliad y dylid gwneud argymhelliad i’w Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor i wneud Gorchymyn sy’n peri i refferendwm gael ei gynnal. Os caiff y penderfyniad hwnnw ei basio gan o leiaf ddwy ran o dair o Aelodau’r Cynulliad, yna rhaid i Brif Weinidog Cymru roi hysbysiad i’r Ysgrifennydd Gwladol cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
Os na osodir Gorchymyn o fewn 180 diwrnod ôl i’r Ysgrifennydd Gwladol gael llythyr Prif Weinidog Cymru, yna rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru i ddatgan hynny a rhoi rhesymau dros beidio â gwneud hynny. Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Brif Weinidog Cymru osod copi o’r hysbysiad hwnnw gerbron y Cynulliad.
Cymal 16 – Gwybodaeth am drafodion tir yng Nghymru
Mae Cymal 16 yn darparu ar gyfer rhoi gwybodaeth i CThEM am drafodion tir yng Nghymru. Mae is-adran (1) yn mewnosod adran 116M newydd ym Mhennod 3 o Ran 4A o Ddeddf 2006 gan osod dyletswydd i ddarparu gwybodaeth benodol i CThEM am drafodion tir yng Nghymru. Mae adran 116M(1) yn darparu bod rhaid i Lywodraeth Cymru roi unrhyw wybodaeth y mae CThEM yn gofyn amdani i CThEM, pan ofynnir iddynt wneud hynny, gan ei bod yn bosibl na fyddai’r wybodaeth hon ar gael i CThEM mwyach drwy ffurflenni trafodion tir. Mae gweddill is-adrannau Cymal 116 yn diffinio’r wybodaeth a fyddai’n angenrheidiol at y diben hwn a sut y dylai gael ei darparu.
Cymal 19 – Benthyciadau gan Weinidogion Cymru
Mae Cymal 19 yn diwygio adrannau 121 a 122 o Ddeddf 2006, ac yn mewnosod adran 122A newydd, i ddiwygio’r amgylchiadau y caiff Gweinidogion Cymru fenthyca odanynt ac i nodi’r prif reolaethau a’r prif derfynau ar fenthyciadau o’r fath. Mae’r cymal yn galluogi Gweinidogion Cymru i fenthyca, yn ddarostyngedig i reolaethau a therfynau Trysorlys EM, er mwyn:
- rheoli anwadalrwydd derbyniadau yn ystod y flwyddyn, lle mae incwm gwirioneddol y mis yn wahanol i’r derbyniadau a ragwelwyd ar gyfer y mis hwnnw;
- darparu balans gweithio yng Nghronfa Gyfunol Cymru er mwyn rheoli’r llif arian;
- ymdrin â gwahaniaethau rhwng rhagolwg y flwyddyn gyfan a’r derbyniadau alldro ynglŷn â threthi datganoledig; ac
- ariannu gwariant cyfalaf.
Mae is-adran 19(3) yn disodli is-adran (1) yn adran 121 o Ddeddf Llywodraeth Cymru:
- gan ailddeddfu gallu Gweinidogion Cymru i fenthyca dros dro oddi wrth Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ddarparu balans gweithio yng Nghronfa Gyfunol Cymru ac i reoli anwadalrwydd derbyniadau yn ystod y flwyddyn; a
- gan ymestyn pwerau benthyca presennol Gweinidogion Cymru i gynnwys benthyca oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol ar draws blynyddoedd er mwyn ariannu gwahaniaethau rhwng rhagolwg y flwyddyn lawn a derbyniadau alldro trethi datganoledig.
Mae is-adran (3) hefyd yn ychwanegu dwy is-adran newydd yn adran 121((1A) ac (1B)). Byddai is-adran (1A) yn galluogi Gweinidogion Cymru i fenthyca er mwyn ariannu gwariant cyfalaf, yn amodol ar gymeradwyaeth gan Drysorlys EM. Rhaid i’r benthyciad fod ar ffurf benthyciad naill ai o’r Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol (drwy’r Ysgrifennydd Gwladol) neu oddi wrth fenthyciwr arall, megis banc masnachol. Mae’r is-adran newydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru fenthyca ar ffurf benthyciad, ac ni chaniateir iddynt ddyroddi giltiau na bondiau Cymreig.
Mae is-adran (10) yn mewnosod adran 122A newydd yn Neddf 2006 sy’n cynnwys darpariaethau ychwanegol ynglŷn â benthyca cyfalaf. Mae adran 122A(5), (6) a (7) yn cynnwys rheolau ychwanegol ar fenthyciadau Gweinidogion Cymru i ariannu gwariant cyfalaf. Mae is-adran (6) yn datgan bod Gweinidogion Cymru wedi’u gwahardd rhag morgeisio unrhyw eiddo neu osod arwystl arno fel gwarant am arian y maen nhw wedi’i fenthyg (ond nid yw hyn yn effeithio ar y rheol yn adran 121(3) o Ddeddf 2006 fod benthyciadau i’w codi ar Gronfa Gyfunol Cymru).
Cymal 20 – Diddymu’r pŵer benthyca presennol
Mae Cymal 20 yn diwygio Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975, gan ddiddymu’r pŵer i fenthyca a roddodd y ddeddf honno i Weinidogion Cymru, a thrwy hynny mae’n dileu un o swyddogaethau Gweinidogion Cymru.
Mae is-adran (1) yn diddymu paragraff 3 (pŵer i Weinidogion Cymru fenthyca arian) a pharagraff 6 (pŵer i Drysorlys EM warantu arian a fenthycir o dan baragraff 3) yn Atodlen 3 i Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975. Mae is-adran (2) yn datgan nad yw’r diddymiadau yn is-adran (1) yn effeithio ar atebolrwydd parhaus Gweinidogion Cymru i ad-dalu arian a fenthycwyd yn flaenorol o dan baragraff 3, nac ar unrhyw warant a roddwyd o’r blaen gan Drysorlys EM o dan baragraff 6.
Cymal 22 – Adroddiadau ar roi’r Rhan hon ar waith a sut mae’n gweithredu
Mae Cymal 22 yn nodi’r gofynion bod rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru gyflwyno adroddiad ynglŷn â rhoi’r darpariaethau ariannol newydd a nodir yn Rhan 2 o Fil Cymru ar waith a sut mae’r darpariaethau ariannol hynny’n gweithredu.
Mae Cymal 22(1) a (3) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi adroddiad ynglŷn â rhoi’r darpariaethau ariannol yn Rhan 2 ar waith a sut mae’r darpariaethau hynny’n gweithredu o fewn blwyddyn ar ôl i’r Ddeddf gael ei phasio a phob blwyddyn wedyn cyn pen-blwydd pasio’r Ddeddf. Mae is-adran (4) yn datgan bod rhaid i’r adroddiadau hyn barhau tan flwyddyn ar ôl i’r pwerau trethu a’r pwerau benthyca gael eu trosglwyddo’n llawn i’r Cynulliad a Gweinidogion Cymru. Rhaid gosod copïau o’r adroddiadau gerbron dau Dŷ’r Senedd a’u hanfon at Weinidogion Cymru, y mae’n rhaid iddyn nhw osod yr adroddiadau gerbron y Cynulliad
Mae is-adrannau (2) a (3) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a gosod gerbron y Cynulliad adroddiadau o’r un math ac at yr un amserlen, a rhoi copi o bob adroddiad i’r Ysgrifennydd Gwladol i’w osod gerbron dau Dŷ’r Senedd.
Mae is-adrannau (5) a (6) yn nodi sut y penderfynir bod un o ddarpariaethau Rhan 2 yn cael ei rhoi ar waith er mwyn penderfynu pa mor hir y mae’n rhaid i’r adroddiadau barhau, ac mae is-adran (7) yn nodi’r meysydd y mae’n rhaid i bob adroddiad eu cynnwys.
Cymal 23 – Awdurdodau tai lleol: terfynau ar ddyled y cyfrif refeniw tai
Mae is-adran (1) yn diwygio Rhan 6 (Cyllid Tai) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (“Deddf 1989”), o ran sut y byddai’r Rhan honno o Ddeddf 1989 yn berthnasol yng Nghymru. Wrth wneud hynny, mae’r ddarpariaeth newydd yn adlewyrchu effaith adrannau 171 i 173 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 sy’n gymwys yn Lloegr yn unig.
Mae is-adran (2) yn cyflwyno adran 76A newydd (Terfynau ar ddyledion) yn Neddf 1989. Mae adran 76A yn rhoi pwerau: (i) i Drysorlys EM i wneud penderfyniad sy’n darparu ar gyfer uchafswm y ddyled tai y caniateir ei chynnal, ar y cyd, gan Awdurdodau Tai Lleol (“LHAs”) yng Nghymru sydd â chyfrif refeniw tai, a (ii) i Weinidogion Cymru i benderfynu ar swm y ddyled tai y mae’n rhaid trin LHA unigol fel pe bai’n ei chynnal ac uchafswm y ddyled tai o’r fath y caniateir i LHA ei chynnal. Mae adran 76A yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad ynglŷn â phob LHA o fewn cyfnod amser o 6 mis sy’n dechrau y diwrnod ar ôl i Drysorlys EM wneud penderfyniad. Rhaid i gyfanswm y symiau o ddyled a gynhelir gan bob LHA beidio â bod yn fwy na “chap Cymru gyfan” a bennir ym mhenderfyniad Trysorlys EM. Hefyd byddai’n anghyfreithlon i LHA fynd y tu hwnt i’w derfyn benthyca unigol.
Mae is-adran (2) hefyd yn cyflwyno adran 76B newydd (pŵer i sicrhau gwybodaeth) yn Neddf 1989. Mae adran 76B yn rhoi pwerau newydd i Weinidogion Cymru i sicrhau gwybodaeth sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i gyflawni eu swyddogaethau o dan adran 76A. Mae adran 76B yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod tai lleol i roi gwybodaeth a thystysgrifau sy’n ategu’r wybodaeth hon i Weinidogion Cymru.
Mae is-adrannau (3) i (7) yn gwneud mân newidiadau i adran 87 o Ddeddf 1989.
Cymal 24 - Gwaith Comisiwn y Gyfraith i’r graddau y mae’n ymwneud â Chymru
Mae Cymal 24 yn mewnosod darpariaethau newydd yn Neddf Comisiynau’r Gyfraith 1965 (“Deddf 1965”) er mwyn gosod dyletswydd newydd ar Gomisiwn y Gyfraith i roi gwybodaeth a chyngor yn uniongyrchol i Weinidogion Cymru. Mae’n egluro y byddai Gweinidogion Cymru’n gallu cyfeirio materion diwygio’r gyfraith at Gomisiwn y Gyfraith eu hunain.
Mae Cymal 24(4) yn mewnosod adran 3C newydd yn Neddf 1965 i ddarparu bod rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad blynyddol i’w osod gerbron y Cynulliad. Rhaid i’r adroddiad gynnwys manylion unrhyw gynigion gan Gomisiwn y Gyfraith sy’n ymwneud â materion Cymreig sydd wedi’u datganoli ac sydd naill ai wedi’u gweithredu ers yr adroddiad diwethaf neu sydd eto i’w gweithredu. Os cafwyd cynigion yn y flwyddyn flaenorol sydd eto i’w gweithredu, rhaid i adroddiad Gweinidogion Cymru gynnwys cynlluniau ar gyfer gweithredu, unrhyw benderfyniad i beidio â gweithredu, a’r rhesymau dros unrhyw benderfyniad o’r fath. Os nad oes cynigion gan Gomisiwn y Gyfraith sydd heb eu cwblhau ynglŷn â materion Cymreig sydd wedi’u datganoli yn y flwyddyn ers yr adroddiad blaenorol, ni fydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio adroddiad i’r Cynulliad
Mae is-adran (4) hefyd yn darparu ar gyfer protocol ynghylch gwaith Comisiwn y Gyfraith o ran Cymru, i’w gytuno rhwng Comisiwn y Gyfraith a Gweinidogion Cymru at ddibenion gwaith Comisiwn y Gyfraith ynglŷn â materion Cymreig sydd wedi’u datganoli. O fwrw ymlaen â phrotocol, rhaid i Weinidogion Cymru a Chomisiwn y Gyfraith ei adolygu o dro i dro a rhaid i Weinidogion Cymru osod y protocol (ac unrhyw ddiwygiadau iddo) gerbron y Cynulliad. Rhaid i Weinidogion Cymru a Chomisiwn y Gyfraith roi sylw i’r protocol.
Yn olaf, mae is-adran (5) o Gymal 24 yn gwneud mân ddiwygiad i adran 5(4) o Ddeddf 1965 sy’n egluro y byddai Gweinidogion Cymru’n gallu talu am wasanaethau Comisiwn y Gyfraith.
Atodlen 1 – Refferendwm ynghylch cychwyn y darpariaethau treth incwm
Mae Atodlen 1 yn nodi fframwaith ar gyfer cynnal refferendwm ynghylch dod â’r darpariaethau treth incwm i rym. Yn unol â Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, mae’n ofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol ynghylch eglurder y cwestiwn refferendwm sydd i’w gynnwys ar y papur pleidleisio. Rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol anfon copi o’r adroddiad, gan gynnwys barn y Comisiwn, fel y’i gosodwyd yn y Senedd at Brif Weinidog Cymru. Mae paragraff 3(4) o Atodlen 1 yn nodi bod rhaid i Brif Weinidog Cymru osod copi ohono gerbron y Cynulliad, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddo gael yr adroddiad.
Rhaid i Orchymyn sy’n caniatáu ar gyfer cynnal refferendwm bennu dyddiad y bleidlais. Mae paragraff 4(2) yn nodi y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol (neu Arglwydd Lywydd y Cyfrin Gyngor) amrywio’r dyddiad hwnnw, drwy orchymyn, os yw’n ymddangos ei bod yn amhriodol ei gynnal ar y dyddiad hwnnw. Serch hynny, rhaid i Weinidogion Cymru gydsynio i orchymyn o’r fath gael ei wneud.
Y sail resymegol dros gynnwys y darpariaethau hyn yn y Bil hwn ar lefel y Deyrnas Unedig
Mae Llywodraeth Cymru o’r farn ei bod yn briodol i’r darpariaethau hyn gael eu gwneud, a’u gwneud drwy gyfrwng Bil Cymru, am na allai’r darpariaethau gael eu gwneud drwy Ddeddf Cynulliad.
Mae’r rhan fwyaf o’r darpariaethau a gynhwyswyd uchod yn cydategu’r cymhwysedd deddfwriaethol ehangach ynglŷn â threthi datganoledig sy’n cael ei roi i’r Cynulliad a’r pwerau benthyca sy’n cael eu rhoi i Weinidogion Cymru drwy gyfrwng Bil Cymru, neu mae eu hangen er mwyn i’r darpariaethau eraill i weithio’n effeithiol.
Ar gais Llywodraeth Cymru y cafodd y cymal yn y Bil ynglŷn â Chomisiwn y Gyfraith ei gynnwys.
Mae Cymal 23 ynglŷn â’r terfynau ar ddyledion y cyfrif refeniw tai yn adlewyrchu rhan hanfodol o’r cytundeb a wnaed rhwng Trysorlys EM a Gweinidogion Cymru, a bydd yn galluogi awdurdodau tai lleol Cymru i ymadael â system bresennol Cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai.