Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, mae'r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol yn cael eu gosod gerbron y Senedd.
Bydd y Bil yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddiwygio ardrethi annomestig a'r dreth gyngor yng Nghymru, gan fynd i'r afael â llawer o gyfyngiadau'r trefniadau presennol a ddaeth i'r amlwg o ganlyniad i ymchwil helaeth a’r profiad o weithredu'r systemau presennol am dros ugain mlynedd.
Mae'r darpariaethau wedi cael eu saernïo'n ofalus er mwyn ehangu gallu Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol ymhellach i gyflwyno'r trefniadau tecaf posibl yng nghyd-destun y system ardrethi annomestig a system y dreth gyngor sydd eisoes wedi'u sefydlu. Mae pob newid wedi'i dargedu i sicrhau ei bod yn bosibl i wahaniaethau cadarnhaol gael eu gwneud.
Bydd rhai o ddarpariaethau'r Bil yn cyflawni gwelliannau penodol yn y tymor byr i'r tymor canolig, a bydd eraill yn cael eu gwireddu drwy is-ddeddfwriaeth yn y dyfodol y mae'r Bil yn darparu'r pwerau ar gyfer eu gwneud. Mae'r dull hwn yn golygu y bydd modd gwneud newidiadau yn amserol i addasu'r systemau er mwyn ymateb i flaenoriaethau ac amgylchiadau sy'n newid. Bydd y dull hefyd yn lleihau'r angen am fesurau anneddfwriaethol brys, megis y rhai a ddefnyddiwyd i dargedu cymorth yn y blynyddoedd diwethaf wrth ymateb i'r pandemig Covid-19. Mae'n bwysig nodi hefyd y bydd y Bil yn lleihau'n sylweddol ein dibyniaeth ar ddarpariaethau yn neddfwriaeth Llywodraeth y DU ar gyfer cyflawni newidiadau i drethi lleol yng Nghymru mewn modd amserol.
Yn gyffredinol, bydd y newidiadau a gynigir yn golygu y bydd y fframwaith ar gyfer trethi lleol: yn cyd-fynd yn agosach â newidiadau yn amodau'r farchnad; yn ymateb i'r cyd-destun sy'n esblygu ar gyfer trethdalwyr, a'r effeithiau dilynol ar gyfer cymunedau; ac wedi'i deilwra ar gyfer anghenion Cymru drwy gael ei sefydlu a'i gynnal o fewn pwerau a strwythurau datganoledig.