Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol,
Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol
Mae Cynllun Mewnfudo Newydd Llywodraeth y DU a’i Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, sydd ar hyn o bryd yn gwneud ei ffordd drwy ddau Dŷ Senedd y DU, yn llwyr danseilio ein gweledigaeth o Gymru fel Cenedl Noddfa.
Cytunwn fod y system lloches yn ddiffygiol ac mae llawer o wendidau y mae angen mynd i’r afael â hwy. Er hyn, mae’r Bil hwn yn mynd yn gwbl groes i’r hyn sydd ei angen a bydd yn hytrach yn gwaethygu’r annhegwch ac yn peri niwed i gymunedau.
Credwn y bydd llawer o’r darpariaethau yn y Bil yn torri confensiynau rhyngwladol ac egwyddorion cyfiawnder, gan osod amodau eithafol ac anorchfygol yn eu hanfod ar bobl sy’n troi atom i’w diogelu.
Bydd nifer o ddarpariaethau’r Bil yn effeithio ar weithrediad cyfrifoldebau datganoledig, a byddwn yn cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â’r rhain. Byddant hefyd yn effeithio ar ein gallu i arfer swyddogaethau sy’n ymwneud â chydraddoldeb, cynllunio, gwasanaethau cymdeithasol, cydlyniant cymunedol ac integreiddio mudwyr.
Mae’r Bil yn cynnig system dwy haen newydd a fydd yn cynnwys ffoaduriaid “grŵp un” a ffoaduriaid “grŵp dau”. Ni chredwn fod y system hon yn gydnaws â chyfraith ryngwladol o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ffoaduriaid.
Bydd ffoaduriaid grŵp dau yn cael eu gwahardd rhag cael arian cyhoeddus, eu hatal rhag ailymuno â’u teuluoedd yn y DU, a’u cyfyngu i ddim ond 30 o fisoedd o loches yn y DU wrth aros am adolygiadau pellach o’u hamgylchiadau. Rhoddir y cyfyngiadau hyn arnynt ar sail eu dull o deithio i’r DU ac nid ar sail teilyngdod eu hachosion.
Bydd hyn yn achosi effeithiau anghymesur na ellir eu rhagweld ar bobl sy’n cyrraedd Cymru a’r DU ac yn effeithio’n andwyol ar ein gallu i ddarparu cymorth integreiddio yng Nghymru. Bydd yn gwaethygu cyni ac yn cynyddu achosion o ecsbloetio mudwyr a gwaith anghyfreithlon yn ein cymunedau – gan achosi i’r boblogaeth hon fod hyd yn oed yn fwy agored i niwed.
Bydd hefyd yn cynyddu achosion o ddigartrefedd ac o bosibl yn peryglu iechyd y cyhoedd, gan ei bod yn debygol y bydd y rhai nad ydynt yn cael cymorth arian cyhoeddus yn ofni ceisio gofal iechyd. Bydd darparwyr gwasanaethau yn wynebu penderfyniadau moesegol a chyfreithiol anodd o ran i bwy y dylent neu y gallent ddarparu gwasanaethau. Mae hi’n anorfod y bydd rhai yn cael eu gwrthod, yn amhriodol, wrth geisio ffynonellau cymorth hanfodol.
Yng nghyd-destun yr heriau hyn, bydd hi’n anos cynnal cydlyniant cymunedol a chefnogi’r gwaith o integreiddio mudwyr yn effeithiol. Bydd y newid hwn yn gymwys i bobl y mae Llywodraeth y DU eisoes wedi derbyn eu bod yn ffoi oherwydd pryder rhesymol o erledigaeth.
Mae’n anodd deall y rhesymeg dros beidio â darparu arian cyhoeddus i bobl sydd wedi cael lloches yn y DU, a’u hatal rhag bwrw gwreiddiau a chael cyfleoedd i ailymuno â theulu, a hynny dim ond oherwydd y ffordd y maent wedi teithio i’r DU.
Ar ôl y sgandal Windrush, sicrhaodd Llywodraeth y DU y byddai’n ystyried yr unigolion sydd y tu ôl i achosion ac yn gweithredu mewn ffordd fwy tosturiol. Nid yw hi wedi cadw at yr ymrwymiad hwnnw o ystyried goblygiadau’r Bil hwn.
Chwaraeodd y DU rôl allweddol o ran datblygu egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ffoaduriaid, a lofnodwyd ganddi 70 o flynyddoedd yn ôl. Bydd y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn mynd yn groes i’r egwyddorion hyn ac yn chwalu hygrededd a grym cymell tawel y DU o amgylch y byd.
Fel un o lofnodwyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ffoaduriaid, mae’r DU yn derbyn yn benodol y dylai pobl allu hawlio lloches yn y wlad hon. Er hynny, mae’r Bil hwn yn rhoi’r argraff anghywir bod ceiswyr lloches yn dewis a dethol y wlad fwyaf manteisiol i geisio lloches ynddi. Mewn gwirionedd, ac yn fwy aml na pheidio, mae unigolion sy’n ceisio lloches yma yn gwneud hynny am eu bod yn fwy tebygol o allu integreiddio’n heddychlon yn y DU nag yn unrhyw le arall.
Bydd cynnig y Bil i agor “canolfannau llety”, gan gynnwys yng Nghymru, yn tanseilio ein gweledigaeth o Genedl Noddfa. Byddai’r ceiswyr lloches hynny’n cael eu lletya mewn cyfleusterau mawr – a hynny am gyfnod amhenodol o bosibl – ar wahân i’r gymuned ehangach yng Nghymru. Mae hyn yn eu hatal rhag datblygu rhwydweithiau cymorth cymdeithasol a chaffael iaith yn anffurfiol, ynghyd ag atal cyfleoedd i rannu diwylliannau, sy’n elfennau hanfodol wrth integreiddio.
Yn anffodus, rydym wedi gweld drosom ein hunain pa mor niweidiol y gall “canolfannau llety” o’r fath fod. Y llynedd, penderfynodd y Swyddfa Gartref ddefnyddio gwersyll hyfforddi’r Fyddin ym Mhenalun yn Sir Benfro fel canolfan loches. Tarfodd hyn ar gydlyniant cymunedol a chafwyd protestiadau y tu allan i’r gwersyll, gan achosi niwed i iechyd meddwl y bobl a oedd yn lletya yno. Rydym wedi gweld gwaddol gweithgarwch eithafiaeth asgell dde yn Sir Benfro ymhell ar ôl cau gwersyll Penalun.
Nid yw’r Bil yn gosod cyfyngiadau ar ddefnydd y canolfannau hyn. Byddai modd eu defnyddio i letya plant neu bobl â hanes o artaith neu gaethiwed gormesol, neu i letya pobl LHDTC+ ar y cyd â phobl a chanddynt safbwyntiau atgas, ymysg canlyniadau annerbyniol eraill.
Mae’r Bil yn cynnig peidio â rhoi hawl apelio i geiswyr lloches, gan olygu eu bod yn ddibynnol ar adolygiad barnwrol. Mae hyn yn gyfystyr ag amddifadu pobl o hawl i achos teg o dan Erthygl 6 o Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Mae’r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i bobl gyflwyno seiliau dros hawliadau hawliau dynol a gwarchodaeth o fewn cyfnod penodedig. Fodd bynnag, gall gymryd amser i bobl sy’n dianc rhag cyfundrefn ormesol nodi eu hachos yn llawn. Mae diffyg cynrychiolaeth gyfreithiol yn y DU er mwyn helpu ceiswyr lloches i lunio’r achosion hyn, ac nid yw pobl sydd wedi dioddef yn sgil achosion o fasnachu pobl bob amser yn datgelu eu hachosion yn syth.
Rydym yn cydnabod ac yn cefnogi ffocws Llywodraeth y DU ar gael gwared ar rwydweithiau troseddol sy’n arfer caethwasiaeth fodern. Er hyn, credwn y gallai’r cynigion sy’n ymwneud â chaethwasiaeth fodern yn y Bil achosi i bobl ddod yn fwy agored i niwed, gan beri rhagor o drawma a straen i ddioddefwyr, ynghyd â’i gwneud yn anos eu canfod. Yn hytrach na chael effaith ataliol ar rwydweithiau troseddol cyfundrefnol, mae’n bosibl y byddai’r Bil yn creu rhagor o rwystrau rhag mynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern yng Nghymru, gan ein hatal hefyd rhag rhoi cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr.
Rydym yn bryderus ynghylch y cynigion, sy’n bwriadu defnyddio’r broses asesu oedran. Gan fod y ffordd y cofrestrir genedigaethau yn amrywio o amgylch y byd, mae llawer o blant a ddaw i’r DU yn methu darparu dogfennaeth fel tystiolaeth. Mae hynny naill ai oherwydd nad ydynt erioed wedi cael y ddogfennaeth yn y lle cyntaf, neu oherwydd ei bod wedi’i dinistrio.
Profwyd hyn dros flynyddoedd lawer o gyfraith achosion, ond mae’r Bil yn diystyru’r achosion pwysig hyn. Rydym yn annog Llywodraeth y DU i ymgynghori â phwyllgorau moesegol y cyrff proffesiynol meddygol, deintyddol a gwyddonol perthnasol, a chyhoeddi adroddiad cyn gwneud rheoliadau.
Croesawn gynnig y Swyddfa Gartref i roi caniatâd amhenodol i aros i ffoaduriaid grŵp un. Ni fydd y rhan fwyaf o ffoaduriaid sy’n ailsefydlu yng Nghymru yn gallu dychwelyd i’w gwlad wreiddiol cyn pen pum mlynedd ar ôl cyrraedd yma, felly bydd y rhan fwyaf yn gwneud cais am ganiatâd amhenodol i aros. Mae’r oedi presennol o ran gallu gwneud cais am ganiatâd amhenodol i aros yn achosi ansicrwydd ac yn atal ffoaduriaid rhag ailadeiladu eu bywydau yn llwyr.
Fodd bynnag, dylai’r rhesymeg a argyhoeddodd Llywodraeth y DU i wneud y newid hwn hefyd fod yn gymwys i bobl yng nghategori grŵp dau, sydd â’r un angen. Byddai unrhyw ffordd arall o weithredu yn anwybyddu’n greulon wir natur trawma’r ffoaduriaid.
Nid yw’r Swyddfa Gartref yn llwyddo i fanteisio ar sgiliau ceiswyr lloches gan nad ydynt yn caniatáu iddynt weithio. Byddai’r newid hwn yn golygu y gallai ceiswyr lloches gyfrannu at ein heconomi, gan helpu i lenwi bylchau yn y farchnad lafur, ynghyd â’u helpu i ddal gafael ar eu sgiliau ac integreiddio. Mae achos moesegol, economaidd a chymdeithasol amlwg dros wneud y newid hwn.
Rydym yn ddiweddar wedi gweld pa mor gyflym y gall y DU weithredu i helpu’r rhai sydd angen lloches, wrth inni symud miloedd o bobl o Affganistan. Mae hyn yn pwysleisio’r anghysondebau yn y Bil.
Bydd unrhyw Affganiaid na chafodd le ar awyren achub ond a lwyddodd i wneud y daith hir ac anodd i’r DU drwy gyfrwng smyglwyr pobl yn dod yn droseddwyr yn ôl y cynigion yn y Bil, er iddynt ffoi oherwydd yr un bygythiad gan y Taliban.
Yng Nghymru, rydym yn falch o fod yn Genedl Noddfa. Rydym yn falch o’r holl asiantaethau ac unigolion sy’n cydweithio i greu profiad unedig a chroesawgar i bobl sydd wedi ailsefydlu yma.
Mae Cymru yn wlad groesawgar a byddwn bob amser yn sefyll gyda’r rhai sydd ein hangen ni fwyaf. Rydym am i Lywodraeth y DU newid cyfeiriad er mwyn gwella – nid gwaethygu – sefyllfa gyfreithiol, foesegol a chyfiawn y Deyrnas Unedig.