Jeff Cuthbert, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Bydd Bil Cenedlaethau'r Dyfodol yn creu cyfle i ni sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn cydweithio er mwyn cyflawni ein nodau hirdymor. Mae'r gwaith ar y Bil yn mynd rhagddo'n dda a bydd sicrhau bod holl bobl Cymru yn cyfrannu at y gwaith o bennu'r nodau hirdymor hynny yn gwbl allweddol i'w lwyddiant ar ôl y daw'n gyfraith.
Golyga'r heriau cymhleth yr ydym yn eu hwynebu - o safbwynt swyddi a thwf, gwella iechyd a cheisio trechu problemau amgylcheddol mawr - fod angen atebion hirdymor ac arloesol, a hefyd gydweithio.
Nid Cymru yw'r unig wlad sy'n ceisio trechu'r problemau hyn. Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi ysgogi trafodaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf â phobl ar draws y byd ynghylch nodau datblygu cynaliadwy newydd. Y bwriad yw ceisio efelychu llwyddiant Nodau Datblygu'r Mileniwm. Mae'r nodau newydd sydd wedi'u hawgrymu o fewn meysydd trechu tlodi; dysgu i bawb; gwella iechyd, cydraddoldeb a chynhwysiant cymdeithasol a mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.
Mae angen i ni yng Nghymru hefyd gytuno ar y nodau sydd bwysicaf i bob un ohonom, gan gynnwys ein plant a'n hwyrion.
Sgyrsiau cenedlaethol
Mae gennym ni, fel Llywodraeth, swyddogaeth hollbwysig wrth hybu cymdeithas sy'n fwy cynhwysol a grymus, ac yn arbennig ar gyfer y to iau.
Hoffwn gynnwys pobl o bob rhan o Gymru mewn sgyrsiau ynghylch yr hyn sydd bwysicaf iddynt er mwyn gwella eu bywydau a hefyd fywydau eu teuluoedd a'u cymunedau. Bydd hyn yn ein helpu i wireddu'r weledigaeth.
Caiff swydd Comisiynydd newydd ei chreu yn sgil y Bil a fydd yn llunio Adroddiad ar Genedlaethau'r Dyfodol. Bydd yr adroddiad hwn yn seiliedig ar waith dadansoddi ac ar ganfyddiadau'r sgyrsiau cenedlaethol cyfnodol. Caiff yr adroddiad ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Y nod fydd gwella ein dealltwriaeth o'r materion hirdymor y gallai cenedlaethau'r dyfodol eu hwynebu. Mae angen i ni ddeall sut y bydd y tueddiadau hirdymor - o safbwynt demograffeg, technoleg a'r amgylchedd - yn effeithio ar ein nodau hirdymor. Bwriad y sgyrsiau a'r adroddiad dilynol yw llunio agenda ar gyfer y camau positif y gall y gwasanaeth cyhoeddus datganoledig, yn arbennig, eu cymryd.
Hoffwn i'r broses o siarad â phobl Cymru ddechrau cyn i'r Bil gael ei gyflwyno. Am y rheswm hwn rwyf wedi gofyn i Peter Davies, Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy Cymru, gynnal sgyrsiau cenedlaethol yn ystod gwanwyn 2014.
Bydd y sgyrsiau cenedlaethol yn creu cyfle i brofi swyddogaeth bosibl Adroddiad ar Genedlaethau'r Dyfodol, a hefyd i brofi dulliau o ennyn diddordeb cymunedau, busnesau a'r sector cyhoeddus mewn cyfrannu at gyflawni ein nodau hirdymor cyffredin.
Y bwriad yw cynnal nifer o ymarferion trylwyr ar gyfer ennyn diddordeb dros gyfnod o dri mis. Bydd angen i ni, yn fwy na thebyg, ddefnyddio gwahanol ddulliau ar gyfer gwahanol randdeiliaid a fydd yn amrywio o grwpiau ieuenctid i grwpiau busnes.
Hoffwn eich annog chi, Aelodau'r Cynulliad, i fod yn rhan o'r ymarferion hyn ac i gymell eich etholwyr i gyfrannu. Bydd y sgyrsiau yn berthnasol i Gymru gyfan a'r nod yw sicrhau cyfraniadau gan gymaint â phosibl o bobl. Bydd hi'n gwbl hanfodol sicrhau ein bod yn ennyn diddordeb pobl ifanc yn y gwaith - nhw yw'r genhedlaeth nesaf a hefyd rieni a neiniau a theidiau cenedlaethau'r dyfodol.
Bydd adroddiad interim yn cael ei lunio ar sail Cenedlaethau'r Dyfodol a gaiff ei gyhoeddi adeg cyflwyno'r Bil.
Dyma gyfle i bawb gyfrannu at bennu nodau hirdymor gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae'n cydnabod swyddogaeth allweddol y gwasanaethau hyn o safbwynt yr economi, ein hamgylchedd, y cymunedau ble rydym yn byw a'n iaith - sy'n gwbl unigryw i ni. Bydd y sgyrsiau'n dilyn ôl troed "Y Gynhadledd Fawr" a'r Sgwrs Go Iawn ar sgiliau ac yn ategu ymgynghoriad presennol y Cynulliad ar gyfer pobl ifanc, "Dy Gynulliad di - dy Lais di, dy Ffordd di."
Dyma elfen gyntaf darn gwbl arloesol o ddeddfwriaeth a fydd yn effeithio ar bob person, cymuned a busnes yng Nghymru. Bydd hi’n anodd ar adegau i’w wneud yn dda a bydd angen i bawb gydweithio er mwyn nodi atebion hirdymor i'n heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.