Jeff Cuthbert, AC, Y Gweinidog Cymunedaua a Threchu Tlodi
Yn dilyn datganiad deddfwriaethol y Prif Weinidog ar 16 Gorffennaf ynglŷn â’r Bil Cenedlaethau’r Dyfodol, rwyf eisiau rhoi rhagor o wybodaeth am ein hymrwymiad i ddeddfu er mwyn gwneud datblygu cynaliadwy yn brif egwyddor drefniadol gwasanaeth cyhoeddus datganoledig yng Nghymru ac i greu corff annibynnol.
Esboniodd y Prif Weinidog mai ‘teitl gwaith’ y Bil hwn nawr fydd Bil Cenedlaethau’r Dyfodol. Credaf y bydd y newid yn gymorth inni gyfleu’r diben yn well ac i feithrin mwy o gyfranogiad gan y gwahanol sectorau i’r ffordd yr ydym yn defnyddio deddfwriaeth i sicrhau bod y penderfyniadau a wneir heddiw yn well ar gyfer y tymor hir.
Ein cymunedau yw calon ein cenedl a’n diwylliant, a diben y Bil Cenedlaethau’r Dyfodol yw diogelu’r cymunedau hynny at y dyfodol. Bydd yn sicrhau eu bod nhw a’r bobl sy’n byw ynddynt yn cael eu hamddiffyn rhag pwysau sy’n bygwth eu hyfywedd a’u parhad. Mae hyn yn golygu bod sefydliadau, wrth ddiwallu anghenion dybryd tymor byr, megis lliniaru effaith pwysau economaidd ac ariannol a chreu swyddi a thwf, yn gwneud pob ymdrech i ddiogelu lles tymor hir pobl Cymru. Ar yr un pryd, byddant yn mynd i’r afael â heriau sy’n pontio’r cenedlaethau, megis anghydraddoldebau iechyd, cynyddu sgiliau, a lliniaru effaith newid hinsawdd.
Ein nod yw datblygu cymunedau cryf a chydlynus, a’r rheini’n ffynnu ac yn gymunedau lle y mae teuluoedd yn gallu cael safon byw derbyniol nawr ac yn gallu rhagweld yr un peth i’w plant, ac i blant eu plant. Mae hyn yn cynnwys yr amgylchedd yr ydym yn ei drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.
Yn 2012, fe wnaethom ni ymgynghori ar Bapur Gwyn ynghylch ein cynigion i ddeddfu i roi datblygu cynaliadwy wrth galon Llywodraeth Cymru a sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae ein rhanddeiliaid wedi rhoi ymatebion adeiladol a manwl i’n cynigion, ac rydym eisiau sicrhau ein bod hi’n llwyddo yn hyn o beth, ac yn ymdrin â rhai o’r meysydd a godwyd yn yr ymgynghoriad. Fel y nododd y Prif Weinidog, caiff y Bil ei gyflwyno yn haf 2014.
Mae sefydliadau ymhob rhan o Gymru yn chwarae rhan bwysig yn gwella dyfodol Cymru yn y tymor hir. Mae’r Bil yn canolbwyntio ar y rhan sydd gan sefydliadau i’w chwarae wrth ddarparu gwasanaethau. Rydym eisiau gwneud newid sylfaenol i’r modd y caiff penderfyniadau mawr eu gwneud yng ngwasanaeth cyhoeddus Cymru. Mae’n golygu sicrhau bod dewisiadau gwell yn cael eu gwneud i wella lles Cymru nawr ac ar gyfer y dyfodol.
Ein cynnig yw deddfu i roi ffocws clir ar yr heriau y mae’r gwasanaeth cyhoeddus yn ceisio mynd i’r afael â nhw, a sicrhau bod penderfyniadau’n cydnabod y cysylltiadau rhwng cyfiawnder cymdeithasol, ffyniant economaidd a rheoli adnoddau naturiol, a hynny nawr ac yn y tymor hir.
Mae trechu tlodi yn un o’r gofynion sy’n hanfodol ar gyfer datblygu cynaliadwy. Fel cenedl, rydym yn talu’n ddrud am dlodi. Mae trechu tlodi yn o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru gan ein bod yn deall bod tlodi yn effeithio ar unigolion a theuluoedd, ein cymunedau a’r economi. Ni all cymunedau ymdrin â’r problemau hyn ar eu pen eu hunain, felly bydd y Bil hwn yn rhoi grym i wasanaethau cyhoeddus i fynd i’r afael mewn ffordd fwy effeithiol â’r heriau sy’n eu hwynebu. Rhaid inni fynd ati i ddwyn pob rhan o’r llywodraeth a’n holl bartneriaid at ei gilydd mewn ffyrdd newydd er mwyn cymryd cyfrifoldeb. Gan ein bod ni’n gyffredinol yn gorfod gweithio â llai o adnoddau, nid oes modd cael effaith wirioneddol fel arall.
Ac nid dim ond ni sy’n ymrafael â’r materion hyn. Rydym wedi edrych ar ddeddfwriaeth o bob rhan o’r byd, a gwyddom y gall ein Bil ni fod yn enghraifft fuddiol i bobl mewn gwledydd eraill. Mae gwledydd llai, fel Cymru, yn gallu bod ar y blaen ac yn gallu gosod esiamplau o ffyrdd i greu lleoedd a dulliau cynaliadwy. Yng Nghymru, mae cyfle gennym bellach i dynnu rhagor o sylw at hyn drwy greu ein deddfwriaeth arloesol ein hunain.
Nid mesur cwbl annibynnol mo’r Bil. Mae’n sefyll o fewn amrywiaeth o weithgareddau eraill.
Mae ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi yn dangos ein bod yn dewis llwybr gwahanol i Lywodraeth y DU er mwyn dwyn ynghyd bopeth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i wella bywydau pobl sy’n byw mewn tlodi – a hynny drwy gydgysylltu gweithgarwch adrannau a pholisïau fel bod trechu tlodi yn ganolog, boed mewn addysg, iechyd neu lywodraeth leol.
Mae ein ffordd o ymdrin â thai yn golygu ein bod yn mynd ati i wella’r cyflenwad, yr ansawdd a’r gwasanaethau cymorth, ac ar yr un pryd yn ystyried sut y gall y gwelliannau hyn wella canlyniadau iechyd a chynaliadwyedd cymunedol, cyfrannu at adferiad economaidd drwy eu heffaith ar y sectorau adeiladu a gweithgynhyrchu, a chreu cyflogaeth leol a chyfleoedd hyfforddi. Mae hynny hefyd yn cyfrannu at les yr amgylchedd yn y tymor hir drwy roi ystyriaeth i ddeunyddiau ac effeithlonrwydd ynni – sef adeiladu cartrefi mwy cydnerth a charbon isel.
Mae’n bwysig cynnal sgwrs genedlaethol ar yr heriau sy’n wynebu ein cymunedau.
Byddaf yn trafod â Chomisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ynglŷn â’r hyn y gallai ef ei wneud i’n cynorthwyo i gychwyn y sgwrs hon a chael barn ystod eang o’r cyhoedd.