Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Treth leol yw ardrethi annomestig sy’n codi mwy nag £1.1 biliwn bob blwyddyn i helpu i ariannu gwasanaethau llywodraeth leol hanfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar ystod o ddiwygiadau yn ystod tymor presennol y Senedd. Bydd y rhain yn gwneud newidiadau hanfodol a chadarnhaol i ardrethi annomestig yng Nghymru.
Mae sawl elfen o’r system ardrethi annomestig yn gweithio ar sail debyg ar draws Cymru a Lloegr, ac mae llawer o fusnesau’n gweithredu ar y ddwy ochr i’r ffin. Mae rhai o amcanion Llywodraeth Cymru, o ran polisi a deddfwriaeth, yn cyd-fynd â rhai Llywodraeth y DU. Mae busnesau a thalwyr ardrethi eraill yng Nghymru yn elwa ar ddull gweithredu cyson a thirwedd debyg o ryddhadau ardrethi annomestig, wedi’u teilwra i adlewyrchu ein sylfaen drethu unigryw.
Mae rhai o’r cynigion yn ymgynghoriad diweddar Llywodraeth Cymru ar Ddiwygio Ardrethi Annomestig yng Nghymru, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer ailbrisiadau amlach a’r mesurau angenrheidiol i’w cefnogi, yn cyd-fynd ag agenda ddiwygio Llywodraeth y DU. Bydd ein cynigion yn cael eu datblygu drwy ddeddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru, lle na fydd gwahaniaeth yn yr amseru a'r cwmpas yn peryglu rhoi talwyr ardrethi yng Nghymru o dan anfantais. Yn ogystal, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar y Rhaglen Digideiddio Ardrethi Busnes, a fydd yn rhoi cyfle newydd i Lywodraeth Cymru ddefnyddio data cysylltiedig i helpu i ddatblygu polisi ardrethi annomestig yn y dyfodol wedi'i deilwra i Gymru.
Mae cyfle i ddefnyddio Bil Ardrethu Annomestig Llywodraeth y DU i gyflwyno diwygiadau penodol yn gynharach nag a fyddai’n bosibl fel arall pe baem yn defnyddio ein Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) sydd yn yr arfaeth, a lle bydd swyddogaethau newydd yn cael eu rhoi i gyrff Llywodraeth y DU (Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio), i sicrhau na fydd talwyr ardrethi yng Nghymru o dan anfantais. Ar ôl ystyried yr opsiynau a'r dull o gyflawni ein hagenda ehangach ar gyfer diwygio ardrethi annomestig, rwyf wedi penderfynu mai’r dewis gorau yw gwneud rhai darpariaethau ar gyfer Cymru ym Mil Llywodraeth y DU.
Mae’r darpariaethau sydd wedi’u hestyn i Gymru yn cynnwys pwerau i sefydlu cynlluniau rhyddhad newydd a gwneud rhyddhadau penodol yn gymwys i eiddo ar y rhestr ardrethu canolog a fyddai, pe na bai’n cael ei gynnwys ym Mil Llywodraeth y DU, yn peryglu rhoi talwyr ardrethi yng Nghymru o dan anfantais gymharol. Rydym hefyd wedi ceisio darpariaethau i alluogi gwybodaeth i gael ei rhannu rhwng cyrff Llywodraeth y DU a thalwyr ardrethi ar yr un sail ar draws Cymru a Lloegr. Bydd ei gwneud yn ofynnol i Asiantaeth y Swyddfa Brisio rannu mwy o wybodaeth â thalwyr ardrethi yn gwella tryloywder a dealltwriaeth o’r system ardrethi annomestig.
Yn ogystal, mae darpariaethau i hwyluso cyfnewid gwybodaeth rhwng CThEF, talwyr ardrethi ac awdurdodau bilio wedi’u hestyn i Gymru i sicrhau ein bod yn gallu elwa ar wireddu’r amcanion a rennir ar gyfer y Rhaglen Digideiddio Ardrethi Busnes. Bydd yn cael ei gweithredu gan CThEF ar draws Cymru a Lloegr, fel y gallwn elwa ar wybodaeth fanylach wrth wneud penderfyniadau polisi, gan gynnwys data treth CThEF, na fyddem fel arall yn gallu cael mynediad atynt.
I helpu i sicrhau bod unrhyw ddiwygiadau’n adlewyrchu’n llawn flaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer ardrethi annomestig, mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio’n agos gyda swyddogion Llywodraeth y DU, i sicrhau bod y darpariaethau’n adlewyrchu’r bwriad polisi ar gyfer Cymru. Byddaf yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer dadl yn y Senedd, er mwyn sicrhau y craffir yn briodol ar y mesurau hyn, a bydd angen cydsyniad y Senedd maes o law.
Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i ddatblygu cynigion i gyflwyno’r diwygiadau ehangach a nodwyd yn ein hymgynghoriad, a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am hynny maes o law.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.