Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig wedi cael eu gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol heddiw.

Diben y Bil yw ei gwneud yn drosedd defnyddio anifail gwyllt mewn syrcas deithiol.

Nid oes unrhyw syrcas sy’n defnyddio anifeiliaid gwyllt yng Nghymru, ond mae syrcasau yn ymweld, a phob tro y byddant yn gwneud hynny, mae galwadau o’r newydd i wahardd yr arfer. Daeth dros chwe mil a hanner o filoedd o ymatebion i law mewn ymateb i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y Bil drafft y llynedd. Roedd y mwyafrif llethol yn cefnogi fy nghynnig i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n ei gwneud yn drosedd defnyddio anifail gwyllt mewn syrcas deithiol.

Bydd gwaharddiad yn rhoi neges glir bod yr arfer hwn yn un sy'n dod o'r oes o'r blaen a'i fod yn foesegol annerbyniol. Mae syrcasau teithiol wedi teithio o gwmpas y Deyrnas Unedig am ragor na dau gan mlynedd a bydd dal croeso iddynt yng Nghymru, cyn belled nad ydynt yn defnyddio anifeiliaid gwyllt.

Byddaf yn cyflwyno Datganiad Llafar ar y Bil i'r Cynulliad Cenedlaethol yfory. Mae copi o'r Bil a'r dogfennau ategol i'w gweld ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol.