Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
Rwyf wedi cyflwyno Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) (“y Bil”), yn ogystal â'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd ag ef, i’r Cynulliad Cenedlaethol heddiw, 12 Rhagfyr 2016.
Mae'r Bil yn cynnig gweddnewid y system ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn llwyr, a fydd yn effeithio ar bron bob un o leoliadau’r blynyddoedd cynnar ac addysg bellach a phob ysgol yng Nghymru.
Bydd gan bron i chwarter yr holl ddysgwyr yng Nghymru ryw ffurf ar anghenion dysgu ychwanegol rywbryd yn ystod eu haddysg. Mae'r fframwaith deddfwriaethol cyfredol sy'n eu cefnogi yn seiliedig ar fodel a gyflwynwyd dros 30 o flynyddoedd yn ôl.
Mae'r Bil yn adeiladu ar yr hyn sy'n gweithio'n dda yn y system bresennol, yn ogystal â thargedu'r pryderon yn ei chylch. Mae'n amlinellu dull newydd a dewr ar gyfer cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol; dull sy'n addas ar gyfer Cymru uchelgeisiol yn yr unfed ganrif ar hugain, lle y mae addysg pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei blaenoriaethu.
Bydd y Bil yn rhoi'r lle canolog i'r dysgwr yn y broses, ac yn sicrhau bod y system yn llawer tecach, yn symlach ac yn llai tebygol o achosi gwrthdaro i'r bobl hynny sy'n rhan ohoni. Bydd y Bil yn:
- creu un system ddeddfwriaethol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol sy'n 0 i 25 oed, yn lle'r ddwy system wahanol sydd ar waith ar hyn o bryd;
- cyflwyno'r term newydd – ‘anghenion dysgu ychwanegol’ yn lle'r termau ‘anghenion addysgol arbennig’ ac ‘anawsterau a/neu anableddau dysgu’;
- dileu'r system o ddatganiadau a chreu un cynllun statudol – y cynllun datblygu unigol – yn lle'r ystod o gynlluniau statudol ac anstatudol sydd gennym ar hyn o bryd ar gyfer dysgwyr, gan sicrhau hawliau teg beth bynnag yw lefel anghenion y dysgwr neu'r lleoliad addysg y mae'n ei fynychu;
- sicrhau bod barn dysgwyr a rhieni yn cael ei hystyried drwy gydol y broses gynllunio fel bod pawb yn ei gweld fel rhywbeth sy'n eu cynnwys, yn hytrach na rhywbeth sy'n digwydd iddynt, a bod y plentyn neu'r person ifanc yn ganolog i bopeth; ac
- annog cydweithio gwell rhwng asiantaethau, fel bod anghenion yn cael eu nodi'n gynnar a bod y cymorth cywir yn ei le.
Dyma garreg filltir bwysig i addysg yng Nghymru sy'n ganlyniad i lawer o waith gyda'n partneriaid, gan gynnwys ymarferwyr, rhieni, plant a phobl ifanc, llywodraeth leol, y GIG, a'r trydydd sector.
Fodd bynnag, nid yw deddfwriaeth yn cynnig yr ateb cyfan. Dyna pam y mae'r Bil yn rhan o raglen ehangach sy'n anelu i drawsnewid y system anghenion dysgu ychwanegol, er mwyn sicrhau dyfodol llwyddiannus ar gyfer pob dysgwr. Mae ein Rhaglen Trawsnewid System Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cynnwys cyfres gynhwysfawr o ffrydiau gwaith deddfwriaethol ac anneddfwriaethol.
Nid yw effaith y diwygiadau hyn yn gyfyngedig i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Nid mater ymylol yw hwn; yn hytrach, mae'n hollbwysig o ran ein gweledigaeth ehangach ar gyfer addysg yng Nghymru – un sy'n gynhwysol ac uchelgeisiol gyda safonau uchel. Mae trawsnewid y system anghenion dysgu ychwanegol yn cyd-fynd yn uniongyrchol â'r weledigaeth a nodir yn ‘Cwricwlwm Cymru’ – un o systemau gwbl gynhwysol sy'n cydnabod pwysigrwydd dulliau sy'n canolbwyntio ar ddysgwyr ac asesiadau gan athrawon sy'n cefnogi anghenion dysgu pob plentyn neu berson ifanc.
Rydym yn symud nawr i'r cam nesaf er mwyn cyflawni'r diwygiadau sylweddol hyn – proses y Cynulliad – ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr ar draws y Siambr i gyflwyno fframwaith deddfwriaethol newydd sy'n gadarn ac uchelgeisiol, er mwyn sicrhau bod ein dysgwyr sydd fwyaf agored i niwed yn cael y cymorth cywir i gyflawni eu potensial. Mae hwn yn nod rydym i gyd yn ei rannu ac yn un y mae dyletswydd arnom i'w gyrraedd.
Byddaf yn gwneud datganiad llafar ar y Bil i'r Cynulliad yfory, 13 Rhagfyr 2016.
Mae manylion y Bil ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru – www.cynulliad.cymru.