Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yr wyf wedi gofyn, o fewn y broses ddeddfwriaethol bresennol, am gael cyflwyno gwelliant i gymal 56 ac atodlen 9 o Fil yr Amgylchedd mewn perthynas â phwerau i godi tâl am eitemau plastig untro ac mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi cytuno i hynny. Bydd y gwelliant yn sicrhau bod gan Weinidogion Cymru yr un pwerau â'r Ysgrifennydd Gwladol i godi tâl am bob eitem untro, waeth beth fo'u defnydd. 

Byddai'r gwelliant hwn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru at ddiben sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru. Byddwn fel arfer yn gosod Memorandwm Atodol ond yn anffodus gan fod y Bil bellach wedi cyrraedd y cam gwelliannau ac am fod  Senedd Cymru ar wyliau yr wythnos hon, nid oes digon o amser i gynnal dadl yn Senedd Cymru cyn y dyddiad y disgwylir i broses graffu’r Bil ddod i ben.