Neidio i'r prif gynnwy

Theodore Huckle QC, Cwnsler Cyffredinol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cafodd Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) ei gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Mick Antoniw AC ar 3 Rhagfyr 2012. Cafodd y Bil ei basio wedyn gan y Cynulliad ar 20 Tachwedd 2013.

O dan adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gallaf atgyfeirio’r cwestiwn a fyddai unrhyw rai o ddarpariaethau’r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad at yr Uchel Lys ar gyfer penderfyniad yn ystod y cyfnod hysbysu o 4 wythnos. Bydd y cyfnod hwn yn para o’r dyddiad y cafodd y Bil ei gymeradwyo ac yn dod i ben ar 18 Rhagfyr 2013.

Rwyf yn ymwybodol bod cyrff sy’n cynrychioli’r diwydiant yswiriant wedi amau yn gyson cymhwysedd y Cynulliad i basio’r Bil hwn. Rwyf o’r farn bod y Bil hwn o fewn cymhwysedd y Cynulliad. Rwyf yn credu, felly, ei bod yn briodol bod y mater ynghylch cymhwysedd y Bil hwn yn cael ei ddatrys yn glir cyn i’r Bil ddod i rym. Rwyf felly wedi penderfynu atgyfeirio’r mater at y Goruchaf Lys er mwyn sicrhau nad oes unrhyw amheuaeth mewn perthynas â’r mater hwn.