Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyflwynais Fil Addysg (Cymru) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 1 Gorffennaf 2013.

Yn ystod Cyfnod 1 o’i daith drwy’r Cynulliad, cynhaliwyd ymgynghoriad ar ddarpariaethau’r Bil gan y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, a chasglwyd tystiolaeth ysgrifenedig a llafar o nifer mawr o wahanol ffynonellau.

Ar ôl dadansoddi’r cyfraniadau hyn yn drylwyr, ac wedi ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn ei adroddiad ar ddiwedd Cyfnod 1 y Bil, rwyf wedi penderfynu, ar ôl pwyso a mesur pob agwedd ar y dadleuon, o blaid diddymu’r darpariaethau Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) (Rhan 3) o Fil Addysg (Cymru).

Rwy’n parhau’n ymrwymedig i gefnogi ein dysgwyr yng Nghymru, ac rwyf hefyd wedi gwrando ar farn rhanddeiliaid ac Aelodau’r Cynulliad sy’n dweud mai’r peth gorau fyddai diddymu’r darpariaethau AAA o’r Bil hwn, gan eu rhoi yn hytrach mewn Bil Diwygio AAA ar wahân. Mae’r Llywodraeth hon yn rhoi pwys mawr ar y broses graffu - felly byddaf yn rhoi fy nghefnogaeth i ddiddymu Rhan 3 (Personau ag Anawsterau Dysgu) o’r Bil hwn.


Er fy mod yn siomedig o safbwynt y dysgwyr eu hunain, gan y bydd oedi cyn gweithredu’r mesurau pwysig hyn, hoffwn sicrhau rhanddeiliaid ac Aelodau’r Cynulliad y bydd fy swyddogion yn gweithio’n agos gyda nhw i gyflwyno deddfwriaeth gydlynus a holistaidd ar y cyfle cyntaf posibl. Hefyd mae’r Llywodraeth hon yn cydnabod pa mor hanfodol yw gweithio ar y cyd i ddarparu deddfwriaeth sy’n addas i’r diben. O gofio hynny, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ddatblygu strategaeth ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid i wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y gwyliau fel bo Aelodau’r Cynulliad yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.


Cefndir

Nod y darpariaethau yn Rhan 3 Bil Addysg (Cymru) yw ei gwneud yn haws i ddysgwyr AAA bontio rhwng ysgol ac addysg bellach, a hynny drwy wneud yr awdurdod lleol yn gyfrifol am asesu anghenion addysgol ôl-16 ar gyfer dysgwyr ag anawsterau dysgu a/neu anableddau, a hefyd am sicrhau addysg arbenigol ôl-16 ar eu cyfer.  

Mae Rhan 3 y Bil yn cynnwys yr hawl i apelio  i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru ar gyfer dysgwyr ag anawsterau dysgu hyd at 25 oed, mewn perthynas â dyletswydd awdurdodau lleol i asesu anghenion dysgwyr a’r ddarpariaeth y mae ei hangen i ddiwallu’r anghenion hynny.

Hefyd mae nod arall i Ran 3 y Bil, sef cefnogi’r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig drwy ddiwygio’r modd y mae ysgolion annibynnol yn cael eu cofrestru a’u cymeradwyo i ddarparu addysg ar gyfer dysgwyr sydd ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA).