Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ebrill 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2013 wedi cael ei osod heddiw, 29 Ebrill 2013.

Mae’r Bil yn dileu nifer o gyfyngiadau a rheolaethau technegol ar golegau heb newid y prif bwerau sydd gan golegau i ddarparu addysg bellach, addysg uwch ac (o fewn rhai terfynau) addysg uwchradd. Mae’r darpariaethau hyn yn cydnabod aeddfedrwydd y sector Addysg Bellach ers ymgorffori ym 1993 ac yn ceisio gwrthdroi penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ddosbarthu sefydliadau addysg bellach fel rhan o’r llywodraeth ganolog at ddibenion cyfrifon gwladol.

Bydd y Bil hefyd yn cynnwys darpariaeth i ganiatáu i ddata gael ei rannu at ddibenion darparu gwybodaeth gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) (gwiriadau incwm aelwydydd) i’w defnyddio ar gyfer gweithredu rheoliadau grantiau a benthyciadau myfyrwyr. Mae’r ddarpariaeth hon yn rhan o’r prosiect i foderneiddio Cyllid Myfyrwyr Cymru drwy greu gwasanaeth wedi’i ganoli, sy’n fodern ac effeithlon, a all wella’r broses ymgeisio i fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru.