Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Mae’r Datganiad hwn yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru’n annog pobl i reidio beiciau modur yn ddiogel ac yn gyfrifol yng Nghymru.
Ym mis Mai eleni, cyhoeddais ddatganiad ar sut rydym yn cydweithio â phartneriaid i wella diogelwch beicwyr modur ar ffyrdd Cymru. Ym mis Gorffennaf, fe gyhoeddais y Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd ac ynddo mae targed i leihau nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol 25% erbyn 2020 ac mae’n disgrifio’r camau y byddwn ni gydag eraill yn eu cymryd i gyflawni hyn.
Gall unrhyw un sy'n teithio ar hyd ffordd gael effaith ar y gymuned y mae’n teithio trwyddi ac rwy’n ymwybodol, o’r pryderon y mae’r Aelodau wedi’u rhannu â mi bod hyn yn berthnasol i feicwyr modur hefyd.
Mae llawer o elfennau positif i feicio modur. Mae’n ffordd gyfleus o deithio i’r gwaith ac mae’n lleihau tagfeydd traffig. Fel gweithgaredd hamdden, mae’n cyfrannu at economi Cymru am fod pobl yn prynu ac yn cynnal beiciau modur ac offer cysylltiol. Hefyd, mae’n creu buddiannau sylweddol i’r economi leol mewn cyrchfannau poblogaidd ac ar hyd y ffyrdd y mae’r beicwyr modur yn teithio.
Wedi dweud hynny, gall beicwyr modur gael effaith negyddol ar gymunedau lleol. Gall beiciau modur fod yn swnllyd iawn ac mae’r ffaith y gellir eu gyrru’n gyflym iawn yn codi braw ar rai pobl hefyd, yn enwedig pan fyddan nhw’n teithio mewn grwpiau. Ac wrth gwrs, mae damweiniau’n gallu achosi gofid difrifol hefyd. Mae’r mwyafrif o feicwyr modur yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn gwrtais ond mae nifer fechan yn gallu achosi gofid a chwerwi’r berthynas rhwng beicwyr modur a phobl leol.
Mae’r rhan fwyaf o’r gweithgareddau a’r cyrsiau sydd ar gael i helpu beicwyr modur yn ymwneud yn bennaf â diogelwch, mater sy’n parhau i fod yn flaenoriaeth. Ar y cyd â RIDE, mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhedeg cwrs i feicwyr modur y mae’r Heddlu wedi gorfod delio â nhw yn y gorffennol oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol neu yrru diofal. Yn ogystal, mae prosiectau trawsffiniol fel Focus a Darwin yn cael eu rhedeg gan yr heddlu ac ymgyrchoedd cyfathrebu ac addysgu, i fynd i’r afael â phroblemau gyrru amhriodol.
Rwyf wedi ymrwymo i gydweithio â’r Heddlu a phartneriaid eraill ar y Grŵp Llywio Diogelwch Beicwyr Modur er mwyn asesu pa mor dda mae’r cynlluniau hyn yn newid ymddygiad beicwyr modur ac yn trafod beth arall y gellir ei wneud i leihau’u heffeithiau negyddol ar ein cymunedau, yn enwedig yn y Canolbarth. Yn hynny o beth, byddwn yn trafod buddiannau posibl ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd a chodi ymwybyddiaeth â llunio negeseuon effeithiol y gellir eu hymgorffori yn yr holl weithgareddau a drefnir ar gyfer beicwyr modur.