Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Ebrill 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn ddiweddaru Aelodau’r Cynulliad am hynt taliadau PAC Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS).

Ar 31 Mawrth, roedd 95% o’r busnesau fferm cymwys yng Nghymru wedi derbyn rhandaliad. O’r busnesau fferm nad oedden nhw wedi cael eu rhandaliad, roedd eu mwyafrif llethol heb eu talu oherwydd trafferthion gweithredol mawr gyda’r Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) yn Lloegr a’n bod o’r herwydd yn dal i ddisgwyl data am ffermydd sy’n rhychwantu’r ffin.  Mae fy swyddogion yn pwyso ar yr RPA am y manylion er mwyn i Lywodraeth Cymru allu talu’r busnesau fferm dan sylw. Byddwn yn ysgrifennu  wythnos yma at unrhyw fusnesau fferm nad oeddynt wedi derbyn eu rhandaliad erbyn diwedd mis Mawrth, gan nodi’r rhesymau am hyn.

Rydym wedi bodloni terfyn amser y Comisiwn Ewropeaidd gan bennu gwerth hawliau BPS erbyn 1 Ebrill 2016.  Rydym nawr yn gallu talu’r rhandaliadau olaf i’r busnesau fferm hynny sydd wedi derbyn eu rhandaliad BPS cyntaf a thalu’r taliad llawn i’r nifer fach nad ydyn nhw eto wedi cael unrhyw daliad.

Mae’n dda gennyf allu dweud, erbyn diwedd wythnos hon (8 Ebrill), byddwn wedi talu eu rhandaliad BPS olaf i dros dri chwarter y busnesau fferm cymwys.  Bydd yr hawliadau sydd heb eu talu yn cael eu prosesu yn ystod mis Ebrill a bydd pob un, heblaw’r nifer fach iawn sydd â cheisiadau cymhleth, wedi’u talu’n llawn erbyn diwedd y mis.

Ein perfformiad ni sydd orau yn holl wledydd Prydain.

O ran llenwi Ffurflen Cais Sengl (SAF) 2016 y PAC, mae dros 3,500 o fusnesau fferm eisoes yn defnyddio RPW Ar-lein.  Trwy wneud, maen nhw’n cael elwa ar archwiliadau mewnol y system (negeseuon gwybodaeth a negeseuon sy’n dangos gwallau sylfaenol) wrth lenwi’r SAF, yn cael gweld mapiau’r fferm, ac yn cael newid y map i fod yn gyson â’r adran data caeau yn y cais.  Mae 389 o ffermwyr wedi manteisio ar y sesiynau Cymorth Digidol sy’n cael eu cynnal gan swyddogion Taliadau Gwledig Cymru yn ein Swyddfeydd Rhanbarthol.  Mae’r ymateb cyntaf gan y rheini sydd wedi defnyddio SAF Ar-lein a’r sesiynau cymorth wedi bod yn gadarnhaol iawn.  Gall ffermwyr drefnu sesiwn trwy ffonio’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno SAF 2016 yw 16 Mai.