Mark Drakeford, Y Prif Weinidog a Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Mae'r Adolygiad Annibynnol o Fargen Ddinesig Dinas Ranbarth Bae Abertawe a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, yn sylfaen gadarn i Lywodraethau Cymru a'r DU a'r partneriaid rhanbarthol ar gyfer darparu'r Fargen Ddinesig.
Wrth ymateb i'r adroddiad, ein blaenoriaeth i ddechrau oedd gorffen yr achosion busnes dros Ardal Ddigidol Glannau Abertawe a phrosiect yr Egin yng Nghaerfyrddin. Mae'r ddwy lywodraeth wedi ymrwymo i brysuro'r broses arfarnu er mwyn i'r ddau brosiect allu symud yn eu blaenau cyn gynted â phosibl.
Mae prosiect Ardal Ddigidol Glannau a Dinas Abertawe yn cynnwys arena dan-do ddigidol fodern â lle ynddi i 3,500 o bobl gan elwa ar gysylltiad digidol o'r radd flaenaf. Caiff plaza digidol ei adeiladu y tu allan i'r arena, gyda gwaith celf digidol a nodweddion digidol eraill.
Bydd y prosiect yn cynnwys hefyd bentref blychau 28,000 tr sg ac ardal arloesi 64,000 tr sg ar gyfer busnesau newydd yng nghampws Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn SA1. Hefyd, caiff pentref digidol 100,000 tr sg ei adeiladu ar Ffordd y Brenin, gan ddarparu gweithfannau blaengar ar gyfer cwmnïau technoleg a digidol.
Mae canolfan greadigol a digidol yr Egin yn cael ei datblygu yng Nghaerfyrddin, yng nghampws Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn y dre. Bydd y Fargen Ddinesig yn darparu cam 2 y prosiect, yn dilyn y llwyddiant yng Ngham 2 i ddenu S4C fel tenant angori. Bydd yn darparu rhagor o le i adeiladu clwstwr creadigol byrlymus a chysylltiedig fydd yn gwneud y gorau o fanteision cael darlledwr cenedlaethol yn y rhanbarth.
Gallwn nawr gadarnhau bod y ddwy Lywodraeth wedi cytuno 'mewn egwyddor' ac yn amodol ac yn eithriadol, i neilltuo fesul cymal £18 miliwn o gyllid y rhaglen yn unol ag achosion busnes yr Egin ac Ardal Ddigidol Glannau Dinas Abertawe.
Byddai'n rhaid cytuno ar Delerau ac Amodau wrth gwrs, a chadw atyn nhw.
Rydyn ni wedi cytuno hefyd y gallai hyd at £18m arall fod ar gael y flwyddyn ariannol hon i gynnal rhaglen ehangach y fargen. Bydd amodau wrth hynny, gan gynnwys rhoi argymhellion yr Adolygiad Annibynnol ar waith.
Hefyd, bydd Llywodraeth Cymru'n neilltuo hyd at £100k o arian ychwanegol ym mlwyddyn ariannol 2019-20 i ategu'r arian sydd eisoes yn cael ei wario yn y rhanbarth i roi'r argymhellion hynny ar waith ac i gefnogi'r gwaith o adolygu prosiectau eraill y fargen gan sicrhau bod y rhanbarth yn barod i allu cynnal y fargen ddinesig yn ei chyfanrwydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i gynnal y Fargen Ddinesig ac mae'r cyhoeddiad hwn yn tanlinellu ein hyder y gallai'r fargen ddod â manteision i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn Ninas Ranbarth Bae Abertawe.