Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Mae’r datganiad ysgrifenedig hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu Bargen Ddinesig arfaethedig ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Rwyf eisoes wedi rhoi gwybod i’r Cynulliad fod y deg awdurdod lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i baratoi cynnig ar gyfer Bargen Ddinesig. Mae hyn yn dilyn datblygu Bargeinion Dinesig yn Lloegr a chytuno ar Fargen Ddinesig ar gyfer Glasgow yn haf 2014. Ers y cyhoeddiad ynghylch Glasgow, rwyf wedi pwyso dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU am Fargen Ddinesig sy’n cynnig manteision economaidd i Gymru ac sy’n adlewyrchu strwythur y Fargen a gafodd ei tharo ar gyfer Glasgow. Ym mis Mawrth 2015, dywedodd Llywodraeth y DU y byddai’n dechrau trafod â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’r trafodaethau wedi parhau ers hynny
.
Yr wythnos ddiwethaf, cyrhaeddodd awdurdodau lleol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd garreg filltir bwysig pan gafodd prif gynnig y ddinas-ranbarth ei chyflwyno i Lywodraeth y DU. Nod Bargen Ddinesig fyddai lleihau’r bwlch yn y mesur gwerth ychwanegol gros (GVA) rhwng dinas-ranbarth a chyfartaledd y DU. Mae’r cynnig a gyflwynwyd yn canolbwyntio ar gysylltedd, materion digidol, arloesi, sgiliau a bod heb waith a chymorth busnes ac adfywio. Bydd yna gyfnod o ymgysylltu â Llywodraeth y DU yn awr i ymchwilio i’r prif gynnig.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cynnig hwn yn llawn ac mae wedi dweud y byddai’n ymrwymo hyd at £580 miliwn i gefnogi sefydlu Cronfa Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’r cynnig yn ceisio cyllid cyfatebol gan Lywodraeth y DU. Byddai’r cyllid hwn, yn ogystal â chyfraniad yr awdurdodau lleol eu hunain, yn dod â chyfanswm gwerth y Gronfa i bron £1.3 biliwn. Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Er nad oes cadarnhad hyd yma pa brosiectau a fydd yn cael eu cyllido gan y Gronfa hon, o ystyried pa mor bwysig yw cysylltedd i ddatblygu economaidd, mae’r seilwaith trafnidiaeth yn debygol o gael ei gynnwys.
Bydd Bargen Ddinesig lwyddiannus yn bwysig i ddatblygu Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a bydd angen taro bargen a fydd yn sicrhau bod pob rhan o’r rhanbarth yn mynd i fod ar ei hennill. Gallai cais llwyddiannus hefyd baratoi’r ffordd ar gyfer datblygiadau mewn ardaloedd eraill yng Nghymru.