Mick Antoniw, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad,
Jane Hutt, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Heddiw rydym am roi diweddariad i’r Aelodau ar rai camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i baratoi ar gyfer y posibilrwydd o ddatganoli cyfiawnder i Gymru.
Rydym yn comisiynu amrywiaeth o waith ym meysydd cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf i ddeall sut y gallai datganoli'r meysydd hyn ddigwydd yn ymarferol a sut y gallem sicrhau'r effaith gadarnhaol fwyaf posibl o ddatganoli'r gwasanaethau hyn i Gymru.
O ran cyfiawnder ieuenctid, rydym wedi comisiynu Dr Jonathan Evans, Athro Polisi ac Ymarfer Cyfiawnder Ieuenctid ym Mhrifysgol De Cymru sydd wedi ymddeol yn ddiweddar, i arwain adolygiad anffurfiol o'r system Cyfiawnder Ieuenctid bresennol yng Nghymru, gan ystyried y cyfleoedd sy'n deillio o ddatganoli ac i asesu pa gamau ymarferol nesaf a allai fod tuag at ddatganoli. Mae Dr Evans yn cael ei gefnogi yn ei waith gan Grŵp Cynghori Academaidd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru sy'n cynnwys academyddion a rhai sydd â phrofiad ymarferwyr ledled Cymru.
O ran y gwasanaeth prawf, rydym yn ceisio bwrw ymlaen â darn o ymchwil â ffocws ar y camau ymarferol sydd eu hangen i sicrhau bod datganoli’r gwasanaeth prawf yn realiti. Bydd hyn yn ategu'r gwaith sy'n cael ei wneud gan Grŵp Datblygu’r Gwasanaeth Prawf, grŵp o academyddion a'r rhai sydd â phrofiad gweithredol o’r gwasanaeth prawf, o dan nawdd Canolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru. Bydd yn archwilio'r arferion gorau mewn perthynas â'r gwasanaeth prawf a lleihau aildroseddu ac yn nodi rhai o'r cyfleoedd posibl sy'n deillio o ddatganoli'r gwasanaeth prawf yng Nghymru.
Y tu hwnt i'r gwaith hwn, mae plismona yn faes arall lle dadleuwyd dros ddatganoli mor bell yn ôl â Chomisiwn Silk, ac fe bleidleisiodd y Senedd o blaid datganoli plismona fis Mawrth diwethaf. Mae mynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli plismona yn un o ymrwymiadau penodol y Rhaglen Lywodraethu, a'n bwriad yw y byddwn hefyd yn bwrw ymlaen â'r gwaith yn y maes hwn.
O ystyried pwysigrwydd y gwaith hwn, a sicrhau ei fod yn cyd-fynd, mae'n bwysig bod cymorth arbenigol a gwaith craffu ar draws ystod ein cynlluniau. Fel rhan o hynny, rydym wedi penodi'r Fonesig Vera Baird CB i ymgymryd â rôl Cynghorydd Arbenigol Annibynnol i Lywodraeth Cymru ar Ddatganoli Cyfiawnder.
Bydd y rhaglen waith hon, ynghyd â'n gwaith mewnol parhaus, yn arwain at ystod eang o ddealltwriaeth a dysgu a fydd yn ein helpu i ddeall sut i sicrhau bod datganoli yn y meysydd hyn yn realiti ymarferol a chadarnhaol.
Byddwn yn rhoi gwybod i'r aelodau am gynnydd, gan gynnwys drwy ddatganiad llafar maes o law.