Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn fy natganiad ysgrifenedig ar 2 Rhagfyr 2011, nodwyd yr heriau a oedd yn ein hwynebu wrth ddatblygu model gwrthrychol ar gyfer ysgolion cynradd o’u cymharu ag ysgolion uwchradd ac, yn benodol, yr heriau o ran cysondeb asesiadau gan athrawon ac o ran y nifer mawr o ysgolion sydd â nifer bach o ddisgyblion.

Ers hynny, mae Adroddiad y Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant ar gyfer 2010-11, a gyhoeddwyd ar 31 Ionawr 2012, wedi tynnu sylw at union raddau’r anhawster gydag asesiadau athrawon. Rwyf hefyd wedi trafod y mater hwn yn bersonol gyda’r Prif Arolygydd yn ddiweddar. Yn ôl ei Hadroddiad hi, roedd agweddau ar yr asesu yn wan mewn bron hanner y 238 o ysgolion cynradd a arolygwyd o dan y Fframwaith Arolygu Cyffredin, a gafodd ei gyflwyno yn 2010. Ym marn Estyn, nid oedd yr asesiadau a gynhaliwyd ar ddiwedd y cyfnodau allweddol yn ddigon manwl gywir mewn oddeutu chwarter o’r ysgolion hynny.

Rwyf wedi gwrando hefyd ar bryderon tebyg a fynegwyd gan swyddogion awdurdodau lleol a chan athrawon.

Ar sail yr holl dystiolaeth hon, nid wyf yn teimlo bod gennym ddata digon cadarn ar hyn o bryd i’w defnyddio i gyfrifo’r bandiau ar gyfer ysgolion cynradd. Mae angen i ni aros nes y bydd gennym ddata sy’n seiliedig ar ddata sydd wedi’u safoni mewn ffordd fwy cyson ac sydd, o’r herwydd, yn fwy cadarn.  

Rydym wrthi ar hyn o bryd yn cyflwyno profion darllen a rhifedd newydd. Bydd y rhain i gyd yn eu lle ar sail statudol ym mhob ysgol o 2013 ymlaen. Bydd gwaith mwy trylwyr yn cael ei wneud ar y profion hyn o ran sicrhau eu hansawdd ac o ran eu safoni ac, o’r herwydd, byddant yn darparu data mwy dibynadwy ar gyfer cyfrifo bandiau. Byddaf, felly, yn gohirio cyflwyno bandiau ar gyfer ysgolion cynradd tan fis Medi 2014, pryd y byddwn yn gallu defnyddio’r data o’r profion newydd.    

Yr wyf, er hynny, yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau ein bod yn ystyried taith plant drwy’r system addysg ar ei hyd, ac rwyf wedi ymrwymo hefyd i sicrhau bod gennym ddarpariaeth o safon ar eu cyfer o’r cychwyn cyntaf - darpariaeth sy’n parhau’n gyson uchel ar gyfer ein holl ddisgyblion nes iddynt adael byd addysg. Roedd hwn yn ymrwymiad a wnaed gan y Llywodraeth yn ein maniffesto, a byddwn yn gweithredu ar yr ymrwymiad hwnnw. Nid ydym yn mynd i aros tan i ni lunio bandiau ar gyfer ysgolion cynradd cyn dechrau ar y broses o ddatblygu dull cenedlaethol mwy cyson o asesu eu perfformiad a’r anghenion cymorth sydd ganddynt. Mae’r consortia rhanbarthol o awdurdodau lleol yn dweud wrthyf fod enghreifftiau o systemau effeithlon a datblygedig yn eu lle eisoes ar gyfer ymgymryd â’r gwaith hwn. Rwyf wedi gofyn i swyddogion yn yr Uned Safonau Ysgolion i fynd ati ar y cyd â’r consortia i ystyried y dulliau hyn, gyda golwg ar rannu arferion da yn genedlaethol er mwyn sicrhau bod dulliau effeithlon ac uchel eu hansawdd yn cael eu sefydlu ledled Cymru.

I gynorthwyo ymhellach gyda’r broses hon, byddwn yn datblygu proffil perfformiad ar gyfer pob ysgol gynradd, a hynny yn unol â’r ymrwymiad yn ein maniffesto. Er ein bod yn teimlo nad yw’r asesiadau a gynhelir gan athrawon yn ddigon cadarn i bennu bandiau ar gyfer ysgolion mewn modd gwrthrychol ar hyn o bryd, mae’r asesiadau, serch hynny, yn rhoi darlun i ni o berfformiad ysgolion. Mae’r darlun hwnnw, ochr yn ochr â gwybodaeth arall, megis adroddiadau Arolygu Estyn, yn dangos pa ysgolion y mae arnynt angen cymorth yn benodol.  

Bydd y proffil perfformiad yn datblygu’r dull yr ydym yn ei ddefnyddio eisoes i roi gwybodaeth i ysgolion drwy’r pecynnau data craidd, a bydd angen ei gyflwyno yng nghyd-destun nifer y disgyblion sy’n cyfrannu at unrhyw un ffigur. Rwyf wedi dweud yn y gorffennol hefyd ein bod am ddod o hyd i ffordd deg o gyflwyno data ar gyfer ysgolion sydd â chanolfannau adnoddau ar gyfer plant sydd ag anghenion addysgol arbennig, a hynny oherwydd na fydd y disgyblion hynny, at ei gilydd, yn gallu cyflawni’r un lefel o gymwysterau â’u cyfoedion.    

Bydd swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys consortia’r awdurdodau lleol, athrawon, undebau athrawon, llywodraethwyr a rhieni i ddatblygu proffil perfformiad ar gyfer pob ysgol gynradd a fydd ar gael yn gynnar yn ystod Tymor yr Hydref 2012. Ar yr un pryd, eir ati i ystyried sut orau i integreiddio’r proffiliau hyn i’r systemau cenedlaethol a rhanbarthol ar gyfer asesu perfformiad ysgolion cynradd a sut orau i roi’r lefel a’r math priodol o gymorth iddynt.

Byddwn yn adeiladu ar y sylfaen hon drwy fynd ati, ym mis Medi 2014, i gyflwyno System Fandio ar gyfer Ysgolion Cynradd a fydd yn seiliedig ar ddata cadarn o’r profion darllen a rhifedd.