Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ei Faniffesto ar gyfer Arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn 2018, 'Sosialaeth yr 21ain Ganrif', gwnaeth Prif Weinidog Cymru gynnig sefydlu 'Banc Cymunedol’ newydd yng Nghymru, sy'n eiddo i'w aelodau, ar sail un aelod, un bleidlais, i sicrhau bod gwasanaethau bancio ar gael ledled y wlad, gan gynnwys mewn ardaloedd gwledig.

Mae banciau traddodiadol yn cilio fwyfwy o gymunedau ledled Cymru, gan adael bwlch difrifol o ran gwasanaethau mewn ardaloedd lleol, yn enwedig ar gyfer busnesau bach sydd angen benthyciadau tymor byr neu orddrafftiau i'w helpu i oroesi a ffynnu, a dinasyddion sy’n chwilio am fynediad at arian parod a gwasanaethau bancio.  Bydd effaith negyddol banciau'r stryd fawr yn cefnu ar ein cymunedau yn cael ei theimlo ymhob man ond yn arbennig yng nghefn gwlad Cymru a chan y grwpiau sydd fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas heddiw.

Mae camau gweithredu a gymerir gan y sector bancio masnachol yn debygol o waethygu anghydraddoldeb rhanbarthol ac mae'r Llywodraeth hon yn ymrwymedig i sicrhau nad yw budd y cyhoedd a'r gymdeithas ehangach yng Nghymru yn dioddef o ganlyniad i hynny.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi ei adolygiad 'Mynediad at Fancio' ac mae'r adroddiad yn nodi nifer o'r heriau sy'n wynebu'r byd bancio yng Nghymru ac mae'n cynnig amrywiaeth eang o argymhellion sy'n llawn perswâd y bydd Llywodraeth Cymru'n eu harchwilio'n fanwl.  Mae'r adroddiad hwn yn glir bod angen ymyrryd, yn enwedig gan fod cau banciau'n debygol o effeithio ar rai grwpiau ymylol a grwpiau sydd o dan anfantais ariannol mewn modd anghymesur.

Mae'r Llywodraeth hon eisoes wedi rhoi cymorth sylweddol i sicrhau bod busnesau a'n dinasyddion yn gallu parhau i gael mynediad at wasanaethau bancio pan fyddant wedi diflannu o'u cymunedau drwy Undebau Credyd a rhwydwaith Swyddfa'r Post. Er bod y sefydliadau hyn yn rhoi cymorth sydd ei angen yn fawr mae'r rhain wrth gwrs wedi'u cyfyngu o ran eu gallu i gymryd lle llawer o'r gwasanaethau a gynigiwyd gan fanciau cyn hyn.

Mae Llywodraeth Cymru bellach yn weithredol o ran cefnogi partneriaeth a grëwyd rhwng Banc Cambria a'r Community Savings Bank Association (CSBA) i brofi dichonolrwydd sefydlu banc cymunedol i Gymru.  Mae'r CSBA yn Gymdeithas Gydweithredol a gofrestrwyd gyda'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) a chafodd ei greu gyda'r unig ddiben o sefydlu rhwydwaith o oddeutu 19 banc annibynnol, proffidiol, rhanbarthol sy'n eiddo i gwsmeriaid, ledled y DU, drwy fodel 'banc mewn bocs' ac i weithredu fel canolbwynt ar gyfer cydweithredu.  Ar hyn o bryd mae 11 banc posibl CSBA sydd ar gamau gwahanol o ran eu datblygiad, gan gynnwys Banc Cambria.

Er mwyn lleihau'r risg, y gost a'r amserlen o ran sefydlu'r rhwydwaith o fanciau, mae'r CSBA wedi ariannu ac arwain y gwaith paratoi ar gyfer dogfennau cyfansoddiadol, systemau TGCh, cynlluniau cangen, cynllun busnes, dolenni systemau talu, manylebau cynnyrch a'r dogfennau cais am drwydded fancio angenrheidiol.

Mae'r broses o lansio banc newydd yn cymryd amser ac mae'n gymhleth o ran bodloni'r fframwaith rheoleiddio a sefydlwyd drwy Awdurdod Rheoleiddio Prudential (PRA) a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).  Mae'r broses hon yn debygol o gymryd oddeutu dwy flynedd i'w chwblhau ond mae wedi'i rhannu'n sawl cam hylaw ac mae'n cynnwys cysylltiad agos â llawer o randdeiliaid allanol yn ogystal â'r PRA.

Ar hyn o bryd mae Banc Cambria yn cymryd rhan yng ngham cyntaf y gwaith sy'n cynnwys cynllun prosiect manwl, ymgysylltu â rhanddeiliaid, asesiad marchnad cychwynnol ac astudiaeth ddichonoldeb gyda chymorth Banc Datblygu Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Bydd hyn yn helpu i benderfynu ar raddfa posibl marchnad Cymru a'r dichonoldeb cychwynnol o ran caffael sylfaen cwsmeriaid sy'n ddigon mawr i gefnogi hyfywedd ariannol y banc.  

Mae'r gwaith cychwynnol hwn ar y gweill i'w gwblhau erbyn diwedd 2019, ac yn amodol ar ganlyniadau boddhaol a diwydrwydd dyladwy pellach bydd yn arwain at ail ddarn mwy cynhwysfawr o waith ymchwil i’r farchnad a fydd yn cynnwys profi'r farchnad a'r defnyddwyr. Bydd canlyniad y dadansoddiad hwn yn cefnogi datblygu model busnes y banc ac yn arbennig y gyfres o gynnyrch y mae'n debygol o gynnig i'w gwsmeriaid.

Bydd cwblhau'r gwaith hwn yn arwain at Fanc Cambria yn datblygu ei gais am Awdurdodiad gyda'r PRA a'r FCA, a disgwylir y bydd hyn yn digwydd yn ystod haf 2020.  Bydd y CSBA yn gweithio gyda thîm prosiect a Bwrdd Banc Cambria i ddarparu cyngor ac arweiniad wrth iddo fwrw ati i wneud cais i'r PRA/FCA am ei drwydded fancio. Mae'r CSBA eisoes yn cefnogi tri banc cymunedol arall yn Lloegr (Llundain, de-orllewin Lloegr ac Avon) sydd wedi datblygu ymhellach a bydd hwn yn cynnig cyfleoedd dysgu cyffredin ynghyd â lliniaru risg posibl gan y bydd Banc Cambria yn gallu dysgu o unrhyw rwystrau cynnar a wynebwyd gan y lleill.

Mae'n bwysig nodi y bydd trwydded fancio ond yn cael ei rhoi pan fydd y rheoleiddwyr yn hollol fodlon bod y model busnes yn gadarn a bod Banc Cambria wedi diogelu'r isafswm cyllid angenrheidiol sy'n ofynnol i gyfalafu'r banc o gyfuniad posibl o fuddsoddwyr preifat, cyhoeddus neu sefydliadol. Mae awdurdodiad gan y PRA / FCA wedi'i strwythuro ac mae'r broses diwydrwydd dyladwy yn heriol iawn ond mae'n un sy'n rhoi hyder ychwanegol i gyrff cyhoeddus ac eraill sy'n debygol o gefnogi'r banc hwn yn ariannol. Pe bai'n cael ei ddiogelu, mae Banc Cambria'n rhagweld dyddiad lansio rhwng canol 2021 ac yn gynnar yn 2022.

Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am hynt y gwaith hwn.