Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae pob un ohonom yn dibynnu ar fedru cael gafael ar arian a chredyd fforddiadwy, boed yn deulu y mae angen morgais arno i brynu ei gartref cyntaf, yn fusnes bach y mae arno angen cyllid yn yr hirdymor i dyfu ac ehangu, neu'n unigolyn y mae arno angen cymorth ar adegau anodd.

Fodd bynnag, y realiti yn aml yw mai pobl sydd yn yr angen mwyaf am gredyd fforddiadwy sy'n cael y trafferth mwyaf i gael gafael arno. Y teulu sy'n byw mewn tlodi; yr unigolyn heb fawr ddim cynilion, os o gwbl; y rheini sydd â statws credyd gwael – y bobl hyn, yn aml, sy’n cael yr anawsterau mwyaf wrth geisio dod o hyd i gredyd ac arian ac yna cael credyd ac arian ar delerau teg. Maent yn talu premiwm am eu bod yn dlawd.

Rydym ni, Llywodraeth Cymru, wedi bod yn falch dros y blynyddoedd diwethaf hyn o fedru camu i’r adwy a helpu llawer o'r unigolion hyn. Drwy Fanc Datblygu Cymru, rydym wedi cefnogi perchenogion busnesau bach y mae arnynt angen cyfalaf tymor estynedig nad yw ar gael iddynt ar delerau fforddiadwy ar y stryd fawr, a thrwy’n rhwydwaith Undebau Credyd, rydym wedi rhoi help llaw i unigolion sydd, yn aml, yn cael eu gwrthod gan fanciau traddodiadol.

Ond mae un darn o'r jig-so wedi bod, ac yn dal i fod, ar goll. Mae angen rhywbeth arnom a all helpu i fynd i'r afael â'r ffaith brawychus bod banciau traddodiadol wedi bod yn gadael ein Prif Strydoedd, a rhywbeth hefyd i helpu’r unigolion hynny y mae angen cymorth a gwasanaethau ariannol arnynt yn y gymuned.

Dyna pam rwy'n falch iawn heddiw o fedru rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd sylweddol iawn rydym wedi'i wneud wrth ddatblygu a lansio Banc Cymunedol newydd i Gymru.

Mae'r pandemig yn parhau i gael effaith aruthrol ar ein cymunedau. Mewn sawl achos, mae wedi arwain at sefyllfa lle mae’r craciau yn system ariannol y DU wedi ymledu, ac mae hefyd wedi cynyddu'r pryderon difrifol sydd gan lawer ynghylch a yw sector bancio manwerthu'r DU yn addas at ddibenion cymdeithasol.

Roedd y gwaith i ddatblygu Banc Cymunedol Cymru wedi dechrau ymhell cyn i Covid daro gyntaf, ond yr unig beth y mae’r deuddeg mis diwethaf wedi’i wneud yw creu mwy o angen a mwy o frys am gyfleuster o'r fath.

Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod hynny hefyd. Yn ei Chyllideb ym mis Mawrth 2020, nododd ei bwriad i gyflwyno deddfwriaeth newydd i ddiogelu mynediad at arian parod er mwyn sicrhau bod seilwaith arian parod y DU yn gynaliadwy yn y tymor hir. Fodd bynnag − nid yw wedi mynd ati’n ddigon cyflym i wireddu’i fwriad − flwyddyn yn ddiweddarach ac nid oes amserlen glir eto ar gyfer cyflwyno’r ddeddfwriaeth honno. Ni all, ac ni fydd Llywodraeth Cymru yn aros am ateb.

Er ei bod yn amlwg bod arferion bancio defnyddwyr yn newid wrth i lai o gwsmeriaid ddefnyddio canghennau mewn cymunedau, mae'r gostyngiad parhaus yn nifer y canghennau banc a'r peiriannau ATM ledled Cymru yn rhoi llawer llai o ddewis i ddefnyddwyr ac yn golygu bod yn rhaid iddynt dreulio mwy o amser yn teithio i'w cangen agosaf. 

Mae Arolwg Bywydau Ariannol 2020, a gyhoeddwyd fis diwethaf gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), yn rhoi cipolwg inni ar yr effeithiau sylfaenol ac ychwanegol y mae Covid-19 wedi’u cael o ran yr heriau y mae pobl ledled Cymru yn eu hwynebu yn eu bywydau ariannol. Mae’r hyn a ddaeth i’r amlwg yn destun cryn ofid. Mae'r tueddiadau at fancio ar-lein ac at fancio’n ddigidol, a’r symudiadau at gymdeithas nad yw’n defnyddio arian parod, wedi cyflymu yn sgil Covid-19, yn enwedig gan fod defnyddwyr yn cael eu cyfeirio at ddulliau talu heblaw arian parod a dulliau talu digyffwrdd. Mae’r terfyn ar gyfer taliadau digyffwrdd wedi cynyddu o £30 i £45, a bellach i £100 ar gyfer pob trafodyn, a hynny mewn llai na blwyddyn.

Nid yw bod mewn sefyllfa fregus yn ariannol yn rhywbeth cyffredinol; mae’r bobl sy'n llai abl neu'n llai parod i fabwysiadu dulliau ar-lein a dulliau digidol, a'r rheini sy'n ddibynnol ar arian parod, yn dibynnu ar fedru mynd i ganghennau banciau yn lleol. Gan fod y newidiadau hyn yn digwydd yn gynt, mae rhai grwpiau'n cael eu hallgáu fwyfwy yn ddigidol ac yn ariannol; sefyllfa sy'n debygol o fod yn arbennig o ddifrifol mewn ardaloedd gwledig lle mae’r gallu i fanteisio ar wasanaethau bancio yn wasanaeth cymunedol hanfodol, ond yn wasanaeth sy’n cynyddol brin. Un pryder penodol ddaeth i’r amlwg yn Arolwg yr FCA yw pa mor anodd yw hi, ym mhedair gwlad y DU, i bobl sydd â chyflwr iechyd hirdymor fynd i fanc, cymdeithas adeiladu neu gangen undeb credyd. Mae'r canlyniadau ar eu gwaethaf yng Nghymru.

 

Roedd arolwg yr FCA yn adeiladu ar dystiolaeth sylweddol, ddiamheuol a chynyddol, gan gynnwys tystiolaeth o adroddiad pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Senedd yn 2019, 'Mynediad at Fancio', a ddaeth i'r casgliad bod system bancio manwerthu'r DU yn golygu, yn gyffredinol, nad oes digon o wasanaethau bancio, na digon o gyngor a chymorth ariannol priodol, ar gael i lawer o bobl. Mae diffyg mynediad o'r fath yn peryglu gallu llawer o unigolion a chymunedau, a llawer o fusnesau sy’n rhan o’r economi sylfaenol, i fod yn gydnerth, yn enwedig ar drothwy’r adferiad ar ôl y pandemig.

Mae cymwyseddau deddfwriaethol a rheoleiddiol yn faterion a gadwyd yn ôl, ac ychydig iawn o allu sydd gennym i ymyrryd drwy weithio gyda’r prif fanciau sydd â chyfranddalwyr masnachol. Er hynny, rydym wedi gweithio’n greadigol ac wedi ymchwilio i sefydlu Banc Cymunedol i Gymru, a fydd â'i bencadlys yng Nghymru, ac a fydd yn seiliedig ar y model a'r egwyddorion cydfuddiannol sydd wedi ymwreiddio mor ddwfn yn ein cymunedau ledled Cymru. Yn fanc a fydd yn eiddo i'w aelodau, a fydd yn ystyried anghenion cymunedau lleol, yn atal cyfalaf rhag cael ei golli, yn parhau i gynnig mynediad wyneb yn wyneb at fancio, ac a fydd yn cael yrru gan anghenion cwsmeriaid, yn hytrach na chan yr angen i wneud yr elw mwyaf posibl – credwn y gall, ac y bydd Banc o'r fath yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol mewn cymunedau ym mhob cwr o Gymru.

Mae Cymru yn arwain y ffordd ond rydym hefyd wedi dysgu oddi wrth ymdrechion annibynnol eraill sy’n cael eu datblygu i sefydlu Banciau Cymunedol Rhanbarthol mewn rhannau eraill o'r DU. Mae nifer bach o’r banciau hynny’n cael eu cefnogi'n ymarferol bellach drwy'r Gymdeithas Banciau Cynilo Cymunedol (CSBA).

Dros y deunaw mis diwethaf, rydym wedi bod yn helpu Cambria Cydfuddiannol Limited (CCL) gyda’r gwaith cychwynnol y mae’n ei wneud i ddatblygu’i gynnig Bancio Cymunedol, 'Banc Cambria', sy’n seiliedig ar fodel 'banc mewn blwch' y CSBA. Yn eiddo i'w aelodau, ei nod yw gwella mynediad i wasanaethau bancio bob dydd i bawb yng Nghymru, beth bynnag eu hincwm neu faint bynnag o gyfoeth sydd ganddynt.

Roedd gwaith cychwynnol CCL yn cyd-fynd â’r casgliadau yn adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, sef: er bod y sail resymegol dros fanciau cymunedol yn un sy’n argyhoeddi, fod sawl her yr oedd angen eu goresgyn, gan gynnwys costau a’r risg sy’n gysylltiedig â buddsoddi. Yr argymhelliad oedd y dylid, wrth fynd ati i ddatblygu banc cymunedol, ystyried yr effaith ar y sector undebau credyd. Mae hynny wedi bod o gymorth wrth inni ystyried y cynnig i sefydlu banc.

Mae CCL wedi bod yn greadigol ac wedi addasu’i strategaeth er mwyn sefydlu perthynas gyda sefydliad ariannol sy'n bodoli eisoes. Y cydweithio hwnnw sydd wedi’n galluogi i wneud cynnydd yn gynt wrth inni fynd ati i greu cyfleuster bancio newydd yng Nghymru.

Mae cefnogaeth sefydliad sy'n bodoli eisoes yn rhoi hygrededd a sylwedd i'r cynnig, ac mae hefyd yn ychwanegu profiad a chymhwysedd sydd wedi’i drwyddedu’n briodol a all fod yn fodd i gyflymu'r broses o sefydlu Banc Cambria. Yn ogystal, wrth i CCL gydweithio ag ecosystem ariannol Cymru, mae wedi gweithio'n agos gydag un o undebau credyd Cymru, Undeb Credyd Cambrian, i ystyried sut y gellir datblygu cyfleoedd i ffurfio partneriaethau er mwyn rhoi cymorth ymarferol i fwy o unigolion sydd wedi'u hallgáu'n ariannol, ac osgoi dyblygu.

Mae'n bleser cael cyhoeddi bod cynnig i fuddsoddi’n fasnachol er mwyn sefydlu a chyflwyno Banc Cambria wedi cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru, Partneriaeth Pensiynau Cymru ac Awdurdodau Rheoleiddio'r DU.

Mae'r cynnig yn cael ei ystyried ar hyn o bryd ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru a'n cynghorwyr allanol annibynnol wrthi’n cynnal prosesau diwydrwydd dyladwy trwyadl. Ar ôl i’r broses diwydrwydd dyladwy ddod i ben, ac os bydd hynny’n briodol, mae’n bwysig bod y Llywodraeth a buddsoddwyr posibl eraill yn symud ymlaen fel un, yn amodol ar brosesau gwneud penderfyniadau a chymeradwyaethau rheoleiddiol pob un o’r partïon.

Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r tîm yn CCL a phartneriaid ehangach, oll yn cydnabod bod tystiolaeth am yr angen i fynd ati ar unwaith i fynd i'r afael â methiant y farchnad i gynnig gwasanaethau bancio amlsianel, dwyieithog a hanfodol sy’n cael eu darparu’n lleol ledled Cymru.

Mae hwn yn gynnydd eithriadol, yn enwedig o ystyried y cyd-destun a’r cyfyngiadau sydd eu hangen oherwydd pandemig y coronafeirws.

Rydym yn parhau i fod ar y trywydd iawn i sefydlu Banc Cymunedol Cymru yn ystod 2021.

Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth maes o law.