Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ionawr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel y gŵyr yr Aelodau, mae fy nghydweithiwr y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg wedi sôn bod awdurdod Merthyr Tudful wedi'i dynnu o'r categori mesurau arbennig yn dilyn ymweliad monitro gan Estyn.  Mae hyn yn golygu bod pob un o'r pedwar awdurdod - Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Sir Fynwy a Thorfaen - bellach wedi'u tynnu o'r categori hwn.  Rwy'n hynod falch bod Estyn wedi penderfynu bod pob awdurdod wedi gwneud cynnydd digonol ac nad oes angen cynnal unrhyw weithgareddau dilynol ar gyfer yr un ohonynt.

Mae'r penderfyniadau hyn yn golygu bod fy ymyrraeth i yn yr ardaloedd hyn wedi dod i ben. Yn eu hadroddiadau monitro, mae Estyn wedi cydnabod cyfraniad y Byrddau Adfer a sefydlwyd i roi cymorth a her i'r awdurdodau.  Mae aelodau o bob Bwrdd wedi rhoi cymorth a her i'r awdurdodau lleol ar ystod o faterion ac rwy'n disgwyl i'r momentwm hwn barhau. Mae'r cyngor a'r gefnogaeth gan y Byrddau wedi sicrhau cyflymder a manylder i'r broses adfer a chyflwyno arbenigedd a phrofiad ychwanegol.   Er bod y Byrddau wedi gweithredu fel catalydd ar gyfer newid, rwy'n cydnabod mai ymdrech ar y cyd oedd hwn.  Yn ogystal â gwaith y byrddau, gwnaed llawer o waith gan yr awdurdodau, eu haelodau etholedig a'u swyddogion a chymunedau eu hysgolion hefyd.

Er bod y cyhoeddiadau hyn gan Estyn yn galonogol ac yn arwydd positif o gynnydd, rwyf wedi annog timau rheoli'r awdurdodau hyn i sicrhau bod y gwelliant yn parhau ac yn gynaliadwy, ac i ystyried y ffordd orau o gyflawni hyn.  Fel rhan o hyn, mae fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r awdurdodau i ystyried sut orau i ddysgu'r holl wersi perthnasol o'n hymyrraeth.  Rwyf am sicrhau ein bod yn datblygu dull gweithredu strategol clir sy'n adeiladu ar y momentwm hwn wrth symud ymlaen.