Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
Mae Awdurdod Cyllid Cymru (yr Awdurdod) yn cael ei sefydlu i reoli a chasglu’r trethi newydd a fydd yn cael eu datganoli i Gymru o fis Ebrill 2018 ymlaen. Y trethi dan sylw fydd treth dir y dreth stamp a fydd yn newid i’r dreth trafodiadau tir a’r dreth dirlenwi a fydd yn newid i’r dreth gwarediadau tirlenwi.
Yr Awdurdod fydd yr adran anweinidogol gyntaf i gael ei chreu gan Lywodraeth Cymru. Dros y tair blynedd nesaf disgwylir iddo gasglu tua £1bn o refeniw o drethi, a fydd yn hanfodol i gyllido gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Sefydliad cymharol fach fydd yr Awdurdod gyda tua 40 o aelodau staff. Bydd angen i'r aelodau hynny feddu ar arbenigedd o'r radd flaenaf mewn perthynas â chydymffurfio â threthi, gwasanaethau digidol a rheoli data. Daethpwyd i gasgliad yn y dadansoddiad manwl o’r opsiynau a oedd yn ystyried rhestr fer o chwe lleoliad posib ledled Cymru, ei bod yn bwysig lleoli’r Awdurdod yn yr un ardal o Gymru â sefydliadau eraill sy'n ymgymryd â swyddogaethau tebyg er mwyn denu a chadw’r arbenigwyr dan sylw. Mae copi o’r arfarniad ar gael yn y llyfrgell.
Bydd pencadlys Awdurdod Cyllid Cymru yn cael ei leoli yn Nhrefforest i ddechrau. Mae lleoli'r Awdurdod yn Nhrefforest yn symbol o’n hymrwymiad i wneud y Cymoedd yn lle llewyrchus. Byddwn yn adolygu’r lleoliad unwaith y bydd yr Awdurdod wedi’i sefydlu ac yn gweithredu ymhen deunaw mis.
Rhaid i’r Awdurdod hefyd ddiwallu anghenion ei randdeiliaid a'i gwsmeriaid ledled Cymru. Bydd hyn yn golygu cydweithio â chwsmeriaid a'u hasiantau ymhle bynnag y maent wedi’u lleoli i godi ymwybyddiaeth o'r trethi Cymreig newydd.
Bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn sefydliad digidol yn gyntaf, felly bydd yn ofynnol i’w staff weithio’n uniongyrchol gyda rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru i gefnogi'r trosglwyddiad o systemau copi caled i system o dalu a ffeilio ar-lein.
I hwyluso hyn, bydd gan yr Awdurdod gynrychiolaeth yn Aberystwyth a Llandudno er mwyn cynnal cysylltiad uniongyrchol rhwng staff a rhanddeiliaid, y trethdalwyr a’u hasiantau.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb wnaeth gynnig eu barn a chyflwyno awgrymiadau a sylwadau ynghylch lle y gellid lleoli Awdurdod Cyllid Cymru.