Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ddydd Gwener, 7 Chwefror, cyhoeddodd becws Avana yn Rogerstone, Casnewydd, eu bod yn dechrau ar gyfnod ymgynghori o 45 diwrnod ynghylch dyfodol y safle. Yn amlwg, mae hwn yn gyfnod o bryder mawr i’r staff ac i’w teuluoedd.

Prynwyd becws Avana gan gwmni 2 Sisters Food Group Ltd yn 2011 ac mae’nm cyflogi 650 o weithwyr yn cynhrychu cacennau i archfarchnadoedd eu gwerthu dan eu label eu hunain.  

Ar hyn o bryd, masnach gyda Marks and Spencer sydd i’w gyfrif am  80% o drosiant y becws.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n gweithio gyda’r 2 Sisters Food Group i edrych ar bob opsiwn a allai ddiogelu’r swyddi yn Rogerstone. Byddwn hefyd yn sicrhau bod yr holl weithwyr yn cael cefnogaeth lawn yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae’r cwmni wedi tanlinellu eu hymrwymiad i’w staff a bydd Llyowdraeth Cymru’n parhau i gydweithio’n agos â’r uwch reolwyr i ymchwilio i gyfleoedd newydd ar gyfer busnes a chyflogaeth.