Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Cwnsler Cyffredinol Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwy'n cyhoeddi copi o'r achos ysgrifenedig a gyflwynais i'r Goruchaf Lys, mewn perthynas ag Atgyfeiriad y Twrnai Cyffredinol a'r Adfocad Cyffredinol o Fil Ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban).

Rwy'n cyhoeddi fy achos er budd tryloywder. Mae'r achos hwn yn codi materion o bwys cyfansoddiadol ar draws y Deyrnas Unedig, a'r gwahanol fframweithiau datganoli. Rydw i, ynghyd ag Arglwydd Adfocad yn yr Alban a Thwrnai Cyffredinol Gogledd Iwerddon, yn rhyddhau ein hachosion ysgrifenedig i’r cyhoedd er mwyn i'n safbwyntiau ar y materion pwysig hyn fod yn glir.

Fel yr wyf eisoes wedi pwysleisio, dydy cyfranogaeth Llywodraeth Cymru yn ddim i'w wneud â'n Deddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) ni ein hunain. Drwy sicrhau newidiadau i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Chytundeb Rhynglywodraethol, llwyddwyd i amddiffyn datganoli yng Nghymru, a sicrhau bod cyfreithiau a meysydd polisi sydd wedi'u datganoli ar hyn o bryd yn parhau i fod wedi'u datganoli.

Mae’r materion sy'n cael eu codi ar ran Llywodraeth y DU gan y Twrnai Cyffredinol ac Adfocad Cyffredinol yr Alban yn eu hachos yn ymestyn y tu hwnt i Fil yr Alban, ac yn ymwneud â gweithrediad y DU yn y dyfodol ar ôl Brexit. Mae'n hanfodol i Gymru gael llais ar faterion o’r fath, ac ar hynny rwy'n canolbwyntio yn fy achos.

Yn gyntaf, rwy'n ystyried pa effaith fydd ymadael â'r UE yn ei chael ar gymhwysedd y Cynulliad. Rwy'n dadlau'n gryf y bydd ymadael â'r UE yn golygu y bydd yr holl bwerau mewn meysydd datganoledig sydd ar hyn o bryd yn gorffwys yn yr UE, er enghraifft yn ymwneud â chymorth amaethyddol, bellach heb eu cyfyngu o gwbl gan gyfraith yr UE. Fel y dywedodd y Goruchaf Lys ei hun yn achos Miller, bydd ymadael â'r UE yn ehangu cymhwysedd y deddfwrfeydd datganoledig. Y Cynulliad ddylai benderfynu ble, os o gwbl, y mae'n dymuno cronni unrhyw bwerau drwy fframweithiau cyffredin ar draws y DU.

Mae'r ail fater yn ymwneud ag ymarferoldeb deddfwriaethol ymadael. Mae fy achos yn datgan bod deddfu ar gyfer canlyniadau domestig ymadael â'r UE, lle bo'r canlyniadau hynny yn ymwneud â materion sydd heb eu cadw yn ôl, yn syrthio'n glir o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, ac nid o fewn perthynas ryngwladol a gedwir yn ôl.

Yn drydydd, rwy'n dadlau ei bod yn berffaith o fewn cymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu cyn ymadael er mwyn i'r newidiadau angenrheidiol fod yn eu lle o'r diwrnod cyntaf pan fydd y DU yn ymadael â'r UE.

Mae'r pedwerydd pwynt yn fy achos yn ymwneud â chwmpas pwerau'r llysoedd i adolygu deddfwriaeth y Cynulliad. Dywedodd y Goruchaf Lys yn glir yn AXA, pan fo deddfwrfeydd datganoledig a etholwyd yn ddemocrataidd yn gweithredu o fewn cwmpas y fframweithiau datganoli a osodwyd gan Senedd y DU, gall y llysoedd adolygu eu gweithredoedd ar sail gyfyngedig iawn yn unig, a dim ond lle mae hawliau sylfaenol neu reol y gyfraith yn ei hanfod yn y fantol. Nid yw Bil Parhad yr Alban, yn fy nghyflwyniad, yn ddeddfwriaeth eithafol o’r fath.
 
Bydd yr achos yn cael gwrandawiad yn y Goruchaf Lys ar 24 a 25 Gorffennaf. Bydd Michael Fordham CF yn gwneud cyflwyniad llafar i'r Llys ar fy rhan. Byddaf yn gwneud datganiad pellach pan fydd y Llys wedi cyflwyno'i ddyfarniad.