Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, mae Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC) yn cyhoeddi canfyddiadau ei hastudiaeth annibynnol ar ofal iechyd yng Nghanolbarth Cymru. Gall yr adroddiad ar gael yma: http://wihsc.southwales.ac.uk/AGICC/
Cafodd yr astudiaeth ei chomisiynu ym mis Ionawr 2014, yn dilyn sylwadau gan Aelodau lleol y Cynulliad, clinigwyr, a chynrychiolwyr o'r gymuned. Fel yr amlinellwyd mewn datganiadau ysgrifenedig ar 24 Ionawr ac 17 Mawrth, gofynnwyd i WIHSC ystyried y materion a'r cyfleoedd ar gyfer darparu gwasanaethau gofal iechyd hygyrch, diogel a chynaliadwy o safon uchel, sy'n gweddu orau i anghenion penodol pobl sy'n byw yn y Canolbarth.Yn unol â'r cylch gorchwyl, gofynnwyd i WIHSC yn benodol i ystyried canlyniadau a phrofiadau cleifion, a thrwy feithrin cysylltiadau ag amrywiaeth eang o gyfranogwyr, bennu'r ffordd orau o ddatblygu modelau ar gyfer darparu gwasanaethau ar draws meysydd gofal sylfaenol a chymunedol yn Ysbyty Bronglais, yn Aberystwyth. Gofynnwyd i WIHSC edrych hefyd ar gyfleoedd i ddarparu gofal mwy integredig mewn cartrefi cleifion, neu’n agos at eu cartrefi, drwy ddefnyddio technoleg telefeddygaeth a theleiechyd, ac edrych ar rolau a modelau newydd ar gyfer y gweithlu, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer trefniadau partneriaeth ag arbenigwyr, a datblygu mwy o rolau cyffredinol.
Rwy'n croesawu ymateb cynhwysfawr WIHSC i'r cylch gorchwyl. Mae tîm yr astudiaeth wedi siarad â mwy na 900 o unigolion neu grwpiau, gan gynnwys aelodau o'r cyhoedd, cleifion, staff clinigol, rheolwyr a gweinyddwyr, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, y Colegau Brenhinol, y Cyngor Meddygol Cyffredinol a Deoniaeth Cymru. Hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd i'r cais am dystiolaeth.
Mae'r canfyddiadau'n cyflwyno'r heriau sy'n gysylltiedig â darparu gofal iechyd hygyrch o safon uchel yn y Canolbarth – amseroedd teithio cleifion ar gyfer gwasanaethau allweddol; anawsterau cadw staff medrus a datblygu gwasanaethau hygyrch.
Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu nifer o awgrymiadau i fynd i’r afael â’r heriau hynny. Mae’n tynnu sylw at y parodrwydd ymhlith y rhai hynny sy’n gyfrifol am gynllunio, rheoli a darparu'r gwasanaethau, ac ymhlith y miloedd ar filoedd o bobl sy’n dibynnu ar wasanaethau iechyd yn y Canolbarth, i weithio ar y cyd i wneud yr hyn sydd ei angen i sicrhau bod gan bawb fynediad at ofal iechyd diogel a chynaliadwy o safon uchel.
Bydd gofyn i ran helaeth o’r adroddiad gael ei hystyried gan ystod eang o sefydliadau, ac felly bydd angen sicrhau digon o amser i ganiatáu i hynny ddigwydd. Ond, hoffwn ei gwneud yn glir ar unwaith – yn yr un modd ag y gwnes hynny wrth gomisiynu'r astudiaeth – y byddaf yn disgwyl i fyrddau iechyd Hywel Dda, Betsi Cadwaladr, a Phowys, ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ymateb i'r canfyddiadau mewn ffordd drylwyr ac ystyrlon drwy eu trefniadau cynllunio, gan gynnwys wrth ddatblygu eu cynlluniau tymor canolig ar gyfer 2015-16.
Rwy'n croesawu cyflwyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i dîm yr astudiaeth, sy'n cynnig sail gadarnhaol i ddatblygu cynlluniau ar gyfer Ysbyty Bronglais a’r rhanbarth ehangach yn y dyfodol.
Rwy wedi ysgrifennu at bob un o’r byrddau iechyd heddiw yn pennu’r hyn yr wyf yn ei ddisgwyl, ac yn gofyn iddynt drafod ar lefel y bwrdd y canfyddiadau a’u hymateb cyn y Nadolig. Rwy’n disgwyl i’r ymateb gynnwys barn staff a chleifion.
Byddaf yn ystyried manylion llawn ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad, ond rwy wedi gofyn i swyddogion ddechrau ar y gwaith ar unwaith, er mwyn gallu rhoi cyngor imi ar yr opsiynau i sicrhau'r gwaith o gynllunio'n well ar y cyd rhwng y pedwar sefydliad – y tri bwrdd iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru – er lles y bobl sy'n derbyn gofal iechyd yn y Canolbarth.
Er mwyn sicrhau bod y ffordd angenrheidiol o feddwl a'r egni sydd eu hangen i wynebu'r materion a amlinellwyd yn yr astudiaeth yn cael eu cynnal, byddaf yn cefnogi cynnal cynhadledd uchel ei phroffil yn y Canolbarth, a fydd yn dwyn ynghyd pobl flaenllaw, a rhai o'r enghreifftiau mwyaf llwyddiannus o fynd i'r afael â phroblemau gofal iechyd gwledig, o bob rhan o'r DU a lleoedd eraill.
Roedd y cylch gorchwyl wedi ei gwneud yn glir nad cylch gwaith Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru oedd paratoi cynllun gweithredu na gwneud penderfyniadau am y dyfodol - cyfrifoldebau statudol y tri bwrdd iechyd a sefydliadau eraill y GIG sy'n gwasanaethu'r rhan honno o Gymru yw hynny. Fodd bynnag, mae canfyddiadau'r astudiaeth hon yn cynnig sylfaen gadarn y gellir datblygu ffordd gryf o weithio arni er mwyn cynllunio gwasanaethau iechyd Canolbarth Cymru ar y cyd.