Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Aelodau'r Senedd, cyhoeddaf fod Dr Nerys Llewelyn Jones, Asesydd Dros Dro Diogelu'r Amgylchedd, Cymru wedi penderfynu rhoi'r gorau i'w swydd. Hoffwn estyn fy niolch a'm gwerthfawrogiad am ei holl waith caled. Yn sicr gwnaeth arwain gydag awdurdod a'n helpu i sicrhau bod cyfraith amgylcheddol yng Nghymru yn cael ei chryfhau. Er ein bod yn drist ei bod yn rhoi'r gorau i'w swydd dymunwn bob llwyddiant iddi yn y dyfodol.

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod Lynda Warren, sy'n un o'n Dirprwy Aseswyr Dros Dro ar hyn o bryd, wedi cytuno i gamu i swydd yr Asesydd Dros Dro gan sicrhau parhad yn ystod y cyfnod allweddol hwn. Diolchwn iddi am ei hymroddiad a'i chroesawu fel yr Asesydd Dros Dro. Rwy'n dymuno'n dda iddi yn y swydd hon.

Rwyf hefyd wedi penodi John Henderson yn Ddirprwy Asesydd Dros Dro newydd i gynnal ymrwymiad y Llywodraeth i Lywodraethu Amgylcheddol cadarn.