Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ein cenhadaeth genedlaethol yw codi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy’n destun balchder a hyder cenedlaethol.

Mae atebolrwydd ac asesu’n thema gyson sy’n codi wrth i mi ymweld ag ysgolion. Rwyf wedi gwrando'n astud ar y pryderon hyn.

Mae asesu ac atebolrwydd yn hanfodol i godi safonau. Prif bwrpas asesu yw darparu gwybodaeth a all lywio penderfyniadau am y ffordd orau i symud dysgu'r disgyblion yn ei flaen ac adrodd ar hynny i'w rhieni.

Drwy wneud hynny, dylai asesu wella dysgu dysgwyr, addysgu athrawon a dealltwriaeth rhieni. Dylid ei ddefnyddio er budd gorau’r disgyblion; gan alluogi i athrawon addasu eu strategaethau addysgu a chefnogi eu cynnydd.

Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae asesiadau athrawon hefyd yn rhan o'n system atebolrwydd ac yn rhy aml mae’r llinellau rhwng y ddau wedi mynd braidd yn aneglur, gan arwain at ganlyniadau anfwriadol yn yr ystafell ddosbarth.

Rwyf wedi gwrando ar y feirniadaeth hon, wedi astudio tystiolaeth ryngwladol ac wedi cymryd sylw o Dyfodol Llwyddiannus, sydd hefyd yn cyfeirio at y llinellau aneglur rhwng asesu ac atebolrwydd.

Rydym ar hyn o bryd yn cychwyn ar ddiwygiadau addysg trawsnewidiol yng Nghymru. Mae sicrhau bod gennym system atebolrwydd drylwyr ar waith i godi safonau yn hanfodol.

Mae hyn yn cynnwys sicrhau ein bod yn adnabod yr arwyddion rhybudd a’n bod yn ymyrryd yn gynnar pan fydd ysgolion yn dechrau methu, dysgu o'r hyn sy'n gweithio a sefydlu ymyriadau effeithiol i gefnogi'r ysgolion hyn.

Dyma pam ein bod yn cynnal adolygiad sylfaenol o systemau atebolrwydd ar lefel cyn ac ôl-16, gan weithio gydag ysgolion a cholegau a gydag arbenigwyr.

Rwyf eisoes wedi cyhoeddi adolygiad annibynnol ar rôl Estyn yn y dyfodol sy’n dechrau fis Awst ac a fydd yn adrodd yn gynnar yn 2018.

Byddwn hefyd yn edrych ar ein mesurau perfformiad. Rwy’n poeni bod ein ffocws ar godi cyrhaeddiad TGAU i radd C wedi arwain at fynediad cynnar i nifer cynyddol o blant fel y gallant fancio cymhwyster is yn hytrach nag o bosib llwyddo i gyrraedd graddau uwch.

Rwyf hefyd yn ymgynghori ar fesurau perfformiad mwy trylwyr ar gyfer dysgu ôl-16.

Wrth ystyried hyn oll, hoffwn hysbysu Aelodau'r Cynulliad fy mod yn bwriadu ymgynghori ar roi'r gorau i gyhoeddi data asesiadau athrawon a data Darllen a Rhifedd Cenedlaethol yn is na'r lefel genedlaethol o 2018 ymlaen. Ni ddylai defnyddio data o asesiadau a gynlluniwyd i gefnogi cynnydd unigol plant gael unrhyw fath o le mewn system atebolrwydd lle mae cymaint yn y fantol.

Byddai'r cynnig a fyddai’n destun ymgynghoriad yn golygu mai canlyniadau asesiadau athrawon 2017 fyddai’r set olaf o ddata a gyhoeddir yn rheolaidd ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru yn yr Adroddiadau Cymharu Ysgolion, Setiau Data Craidd Cymru Gyfan a Fy Ysgol Leol. Byddem yn parhau i gyhoeddi gwybodaeth am deuluoedd o ysgolion, gwybodaeth gyd-destunol a data absenoldeb ar gyfer ysgolion, adroddiadau arholiadau Awdurdodau Lleol CBAC a chanlyniadau ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 ac uwch.

Byddem yn dal i gasglu'r holl ddata cenedlaethol er mwyn sicrhau ei fod ar gael ar gyfer ymchwil pwysig i effeithiolrwydd ein polisïau addysg, ac er mwyn i ni barhau i fonitro cynnydd ar lefel genedlaethol ac ar gyfer grwpiau penodol o ddysgwyr. Bydd y Prif Ystadegydd yn adolygu ar wahân yr ystadegau swyddogol a gyhoeddwyd sy'n cynnwys data ar lefel is-genedlaethol.

Yn yr hydref, byddaf yn ymgynghori ar oblygiadau cyflwyno’r newidiadau hyn.