Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 22 Gorffennaf 2024, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar y pryd ddatganiad a oedd yn nodi strategaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer Maes Awyr Caerdydd yn y dyfodol. Mae'r datganiad ar gael yma: 

https://www.llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-maes-awyr-cymru-caerdydd-strategaeth-hirdymor

Ers hynny, yn unol â’r drefn briodol ar gyfer cynigion o'r math hwn, cyfeiriodd Llywodraeth Cymru ei phecyn buddsoddi arfaethedig yn ffurfiol at yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) ar 15 Awst 2024. Disgwylir y bydd y CMA yn cyhoeddi ei asesiad o'r pecyn heddiw (2 Hydref 2024).

Byddwn yn cymryd yr amser angenrheidiol i roi ystyriaeth lawn i asesiad y CMA ac yn penderfynu a oes angen i ni fireinio ein rhaglen fuddsoddi arfaethedig ar sail yr asesiad hwnnw.

Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd maes o law unwaith y byddwn wedi penderfynu ar y ffordd orau ymlaen. Tan hynny, ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud sylw pellach ar y pecyn cymhorthdal arfaethedig.