Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
Heddiw, cyhoeddwyd adroddiad gan Brifysgol Bangor, Asesiad Technegol o’r potensial i Dreth Gwerth Tir leol yng Nghymru, ar wefan Llywodraeth Cymru. Comisiynodd Llywodraeth Cymru yr adroddiad fel rhan o ystod o waith ymchwil i drethi lleol yng Nghymru.
https://llyw.cymru/treth-gwerth-tir-leol-asesiad-technegol
Ym mis Mawrth 2019, cafodd Prifysgol Bangor ei chomisiynu gan Lywodraeth Cymru i ymchwilio i’r posibilrwydd o weithredu system trethi lleol yng Nghymru a fyddai’n seiliedig ar werth tir, yn hytrach na’r system bresennol sy’n gyfuniad o werth tir ac eiddo, yn ogystal â ffactorau megis cyfansoddiad yr aelwyd. Mae gwahanol systemau trethi gwerth tir ar waith eisoes mewn rhannau eraill o’r byd, ac fe’u gwelir fel ffordd deg a blaengar o godi treth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Fodd bynnag mae’n ymddangos y byddai’n dipyn o her symud yn ymarferol o’r systemau presennol ar gyfer codi trethi lleol i system treth gwerth tir leol.
Bwriad Llywodraeth Cymru wrth ymchwilio i systemau amgen ar gyfer codi trethi lleol yw dod o hyd i ddulliau teg o godi refeniw sefydlog ar gyfer gwasanaethau, gan ystyried unrhyw ganlyniadau buddiol eraill lle bo hynny’n bosibl.
Mae Prifysgol Bangor wedi ymchwilio i ddichonoldeb treth gwerth tir fel cysyniad a fyddai’n cael ei weinyddu’n lleol, y byddai refeniw’r dreth hon yn disodli’r refeniw tebyg a godir drwy’r systemau trethi lleol presennol, y dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Nid yw treth gwerth tir yn y cyd-destun hwn yn cael ei hystyried fel ffordd o godi trethi lleol ychwanegol a fyddai’n gallu codi tipyn mwy neu lai o gyllid refeniw nag sy’n cael ei godi ar hyn o bryd, ac nid yw’n cael ei hystyried chwaith fel cysyniad cenedlaethol.
Mae adroddiad Prifysgol Bangor yn darparu asesiad cychwynnol o dreth gwerth tir leol yng Nghymru, gan nodi’r gwaith pellach y byddai angen ei wneud i brofi’r dull gweithredu hwn yn drwyadl. Un o’r canfyddiadau pwysig y dylid ei ystyried yn y dyfodol yw’r buddsoddiad y byddai angen ei wneud i fodloni’r gofynion gwybodaeth manwl a allai fod yn sail i dreth o’r fath, gan gynnwys cofnodion tir cynhwysfawr (cadastres) a chyfundrefnau prisio cadarn a thrylwyr.
Rwy’n falch bod Prifysgol Bangor, fel rhan o’i hymchwil, wedi gallu datblygu model ystadegol rhagbaratoawl ar gyfer amcangyfrif set o werthoedd tir. Ni fu cais cyn hyn i ddarparu manylion o’r fath yn y llenyddiaeth ar gyfer Cymru, ac mae wedi galluogi Bangor i bennu cyfraddau treth gwerth tir posibl a fyddai’n codi cyllid refeniw sy’n cyfateb yn fras i’r hyn a godir drwy’r systemau trethi lleol presennol. Fodd bynnag un wers allweddol a ddysgwyd o’r gwaith modelu hwn yw ei bod yn llawer mwy heriol amcangyfrif gwerth ar gyfer tir annomestig nag ar gyfer tir domestig.
Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o ddiwygiadau y gellid eu cyflwyno yn y dyfodol, ond byddai angen gwneud llawer mwy o waith ynglŷn â goblygiadau polisi a goblygiadau ymarferol pob syniad. Er enghraifft, byddai angen ystyried a fyddai’n bosibl datblygu opsiynau sy’n cefnogi amcanion polisi ehangach megis datgarboneiddio a threchu tlodi, ac yn bwysig iawn, sut y gellid cynnal y cysylltiad rhwng trethdalwyr lleol a’r gwasanaethau lleol a ddarperir ar eu cyfer.
Un llinyn o waith yw’r ymchwil hon o fewn rhaglen ehangach ar gyfer diwygio trethi lleol a system gyllid llywodraeth leol. Cyhoeddais wybodaeth am hynt y rhaglen waith ar 5 Tachwedd, a cheir mynd at yr wybodaeth honno drwy glicio ar y ddolen ganlynol:
https://llyw.cymru/diwygio-cyllid-llywodraeth-leol-diweddariadau-blynyddol?_