Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Mewn oes o lobaleiddio cynyddol, mae'n bwysig monitro sut mae Cymru'n perfformio, o ran cynhyrchu gwybodaeth newydd a chryfder ei gallu i wneud gwaith ymchwil. Mae perfformiad cryf yn y meysydd hyn yn parhau i fod yn ddangosydd gwerthfawr o fywiogrwydd deallusol gwlad a photensial arloesi yn y dyfodol.
Mae pandemig COVID-19 wedi dangos i lywodraethau a'r cyhoedd, y rôl hanfodol y mae gwyddoniaeth yn ei chwarae wrth fynd i'r afael â heriau sy'n bygwth bywyd a’r economi, ond hefyd y rôl hollbwysig y mae cyngor gwyddoniaeth yn ei chwarae ar gyfer llywio penderfyniadau'r llywodraeth.
Rwy'n falch, felly, o gyhoeddi 'Asesiad seiliedig ar Berfformiad o Sylfaen Ymchwil Cymru 2010-2018' heddiw ar wefan Llywodraeth Cymru. Comisiynwyd yr adroddiad annibynnol hwn, gan Elsevier, gan yr Athro Peter Halligan, ein Prif Gynghorydd Gwyddonol i Gymru, i roi asesiad cyfredol o berfformiad ymchwil cymharol Cymru, gan edrych yn ôl dros tua degawd.
Mae llawer o newyddion sydd i'w groesawu i Gymru yng nghanfyddiadau'r adroddiad hwn – ac amlygir y manylion allweddol ar ffeithlun ar y wefan gyda'r adroddiad. Mae ein sylfaen ymchwil ac arloesi yng Nghymru wedi bod yn ased hanfodol ers tro byd i gynhyrchiant deallusol ac economaidd cyffredinol Cymru ac enw da rhyngwladol. Mae'r adroddiad yn cadarnhau bod ansawdd a chynhyrchiant ymchwil sy'n gysylltiedig â SDG Cymru yn drawiadol, yn enwedig wrth ystyried yr hyn a gynhyrchir o wlad fach, gydag adnoddau cymharol gyfyngedig.
Mae'r sylfaen ymchwil yn parhau i sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a iechyd i Gymru. Mae hefyd yn gydweithredol iawn, gan sefydlu cysylltiadau ymchwil ledled y DU ac ar draws y byd ehangach.
Un ffactor allweddol yn llwyddiant Cymru yw i ba raddau y mae ymchwilwyr yn cydweithio'n helaeth, ar draws ffiniau a sectorau. Dangosodd ymchwil yng Nghymru yr effaith fwyaf ar yr ardaloedd hynny lle bu ymchwilwyr Cymru yn cydweithio ag eraill, waeth beth fo'u daearyddiaethau a'u sectorau, gan ddangos canlyniad cynhyrchiol blynyddoedd o rwydweithio rhyngwladol.
Mae'r canfyddiadau'n datgelu mai ein hymchwilwyr yw rhai o'r rhai mwyaf effeithlon ac effeithiol, ymhlith gwledydd bach, o ran trosi lefelau cymharol isel o incwm ymchwil yn ymchwil gyhoeddedig uchel ei pharch.
Mae hefyd yn tynnu sylw at ba mor ddefnyddiol ac effeithiol fu prif raglen Sêr Cymru Llywodraeth Cymru, o ran cefnogi a chynyddu rhagoriaeth a chapasiti ymchwil yn ein prifysgolion, ledled Cymru.
Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf hon yn dangos yn amlwg bod gan Gymru botensial cryf yn y dyfodol i barhau i ddatblygu arloesedd a chydweithio ym maes ymchwil ac ar gyfer datblygu cysylltiadau byd-eang a mewnfuddsoddi. Fodd bynnag, mae angen inni gofio'r ansicrwydd a'r heriau y mae'r sector ymchwil yn eu hwynebu, wrth ennill cyllid ymchwil mewn cyd-destun ariannu anoddach a mwy cystadleuol yn y DU, ble y mae’n anodd i Gymru gystadlu'n deg â rhannau eraill y DU sy'n cael eu hariannu'n well.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.