Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mehefin 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fel y cytunwyd gan delerau’r datganiad ar y cyd ym mis Hydref 2012 ar ddiwygio ariannu, cwblhaodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU adolygiad ar y cyd o batrwm cydgyfeirio arian cymharol Cymru cyn Cylch Gwario 2015-16.

Wrth baratoi am y Cylch Gwario, rhoes swyddogion yn Llywodraeth Cymru a’r Trysorlys brawf ar senarios gwario amgen ar gyfer 2015-16 a gafodd eu hasesu wedyn o ran eu heffaith ar lefelau arian cymharol Cymru.  Ar sail y dadansoddiad hwn, daeth y ddwy Lywodraeth i’r casgliad na ragwelir unrhyw gydgyfeirio yn ystod cylch gwario 2015-16.  Cafodd y casgliad hwnnw ei gofnodi yn ffurfiol mewn gohebiaeth ysgrifenedig a fu rhwng Prif Ysgrifennydd y Trysorlys a minnau, cyn y cyhoeddiad ar y Cylch Gwario.

Ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi data’r Cylch Gwario ddoe, gallaf gadarnhau bellach y duedd arian cymharol i Gymru hyd at 2015-16.  Bydd rhywfaint o gydgyfeirio yn arian cymharol Cymru yn ystod 2015-16, fel y dangosir ar y siart sydd ynghlwm wrth y datganiad hwn.

Er nad oedd cydgyfeirio pellach yn debygol y tro hwn o gofio na fu cynnydd o gwbl mewn cyllidebau ers tro byd, croesawaf y cydweithio hwn rhwng llywodraethau.  Dyma oedd y tro cyntaf i’r ymrwymiadau a wnaed yn y datganiad ar y cyd ym mis Hydref ar ddiwygio ariannu gael eu rhoi ar brawf fel petai, a bu’r broses yn un ddirwystr.  Bydd yn bwysig sicrhau bod hynny’n parhau’n wir yn y dyfodol, ac y bydd trafodaethau’n cael eu cynnal ar y mater os rhagwelir y bydd cydgyfeirio’n ailgychwyn yn y dyfodol.