Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (y mesur) yn ddarn unigryw o ddeddfwriaeth sydd wedi’i ddylunio i ddarparu fframwaith cyfreithiol i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Aed ati i roi’r gwasanaethau sy’n ofynnol o dan y mesur ar waith, fesul cam, ym mis Ionawr 2012.
Mae Adran 48 o’r mesur yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu adrannau penodol o’r mesur. Cafodd Adroddiad Cychwynnol y Ddyletswydd i Adolygu ei gynhyrchu yn 2013. Mae’r adroddiad yn disgrifio’r broses a gynigir i gyflawni’r swyddogaeth honno ac yn ymhelaethu ar gynnydd wrth ei roi ar waith. Cafodd Adroddiad Interim y Ddyletswydd i Adolygu ei gyhoeddi yn Ebrill 2014 ac mae’n nodi’r canfyddiadau hyd at y dyddiad hwnnw. Heddiw rwyf yn cyhoeddi Adroddiad Terfynol y Ddyletswydd i Adolyg u sydd, yn ogystal â darparu gwerthusiad cynhwysfawr o’r mesur, yn cyflawni gofynion Adran 48.
Mae’r datganiad hwn yn nodi sut yr ydym wedi gwerthuso’r mesur, a rhai o’r prif ganfyddiadau ac argymhellion a gynhwysir yn Adroddiad Terfynol y Ddyletswydd i Adolygu, ynghyd â’r camau y bydd Llywodraeth Cymru’n eu cymryd mewn ymateb.
Mae trefnu bod gofynion cyfreithiol yn rhan annatod o ddarparu gwasanaethau a sicrhau bod y weledigaeth sy’n sail i hynny’n cael ei gwireddu yn gofyn nid yn unig am hyfforddiant a monitro ond hefyd arweiniad ac ymrwymiad i newid. Ceir tystiolaeth o’r ymrwymiad hwn ym mhob ardal yng Nghymru. Mae creu gwasanaethau sy’n hyrwyddo grymuso a dewis, yn ogystal â chefnogi adfer a hybu annibyniaeth, yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae arian cylchol o £5m y flwyddyn yn cael ei ddarparu i fyrddau iechyd o fewn y gwariant sydd wedi’i neilltuo ar gyfer iechyd meddwl i gefnogi rhoi’r Mesur ar waith.
Mae’r adolygiad terfynol wedi tynnu ar wybodaeth o amrywiaeth eang o ffynonellau gan gynnwys:
- Grwpiau gorchwyl a gorffen sy’n cael eu cynnull o blith ystod o randdeiliaid i ystyried materion penodol
- Ymchwil sydd wedi’i chomisiynu’n annibynnol
- Arolygon boddhad ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau ac ymarferwyr cyffredinol
- Arolygon a sylwadau’r trydydd sector
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol y Mesur
- Mesurau perfformiad meintiol
- Craffu ôl-ddeddfwriaethol y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol o argymhellion y mesur
Mae’r dull gweithredu hwn wedi ein galluogi i ddeall effaith y mesur yn llawn ac i allu gwneud argymhellion a fydd yn sicrhau bod arferion yn dal i wella.
Er bod angen amser, fel gydag unrhyw newid mewn proses ac arfer, i wella canlyniadau, cydnabu craffu ôl- deddfwriaethol y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol o’r Mesur a gynhaliwyd flwyddyn yn ôl fod ‘..gwasanaethau Iechyd Meddwl yng Nghymru wedi gwella o ganlyniad [i’r mesur]. Mae’n haws cael mynediad i asesiadau sylfaenol ym maes iechyd meddwl, mae gan fwy o bobl sy’n cael gwasanaethau iechyd meddwl gynlluniau gofal a thriniaeth, ac mae mwy o bobl yn gallu sicrhau eiriolaeth annibynnol ym maes iechyd meddwl.’
Mae Adroddiad Terfynol y Ddyletswydd i Adolygu yn cefnogi canfyddiadau’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol bod y Mesur wedi gwella gwasanaethau, ond, yn ogystal, ei fod wedi cynnig gwerth am arian, a bod gwelliannau yn parhau.
Mae’r prif ganfyddiadau i’w gweld yn yr adroddiad ei hun, ond rhaid tynnu sylw yn benodol at lefel y boddhad sydd wedi’i mynegi gan y mwyafrif helaeth o’r rhai sydd wedi cael gwasanaethau o dan y mesur - gan gynnwys gofal sylfaenol ac eilaidd, yn ogystal â’r gwasanaethau a ddarperir gan Eiriolwyr Annibynnol Iechyd Meddwl.
Mae wedi bod yn bwysig inni wrando hefyd ar ddefnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr ac ymarferwyr nad ydynt wedi cael profiadau mor gadarnhaol, ac mae’r rhain wedi llywio’r argymhellion yn yr adroddiad.
O ganlyniad i’r adolygiad, bydd Llywodraeth Cymru’n cyflwyno sawl newid deddfwriaethol, gan gynnwys galluogi ystod ehangach o staff sydd â chymwysterau priodol i gynnal asesiadau sylfaenol yn lleol ym maes iechyd meddwl a’r rôl cydgysylltu gofal. Byddwn hefyd yn datblygu canllawiau pellach i helpu cyrff statudol i gyflawni eu swyddogaethau o dan y Mesur, a byddwn yn disgwyl i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau adrodd ar ganlyniadau ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau a chyhoeddi eu canfyddiadau. Byddwn hefyd yn parhau i gyhoeddi targedau, a bod yn dryloyw ynghylch cydymffurfio â thargedau, ar gyfer gwella mynediad i wasanaethau.
Trwy gymryd y camau hyn, mae Llywodraeth Cymru’n hyderus y byddwn yn gwella effeithiolrwydd y gwasanaethau a ddarperir o dan y Mesur ymhellach, ac yn sicrhau ein bod yn gallu mesur yn well y canlyniadau y mae gwasanaethau’n eu cyflawni i’r rhai sy’n eu defnyddio.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os bydd Aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.