Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Diben fy natganiad heddiw yw ymateb i’r problemau diweddar mewn cysylltiad ag asbestos yn Ysgol Uwchradd Cwmcarn yng Nghaerffili, De Cymru, a phroblem ehangach asbestos mewn ysgolion yng Nghymru.

Rydw i’n llwyr ymwybodol o natur ddifrifol y digwyddiadau diweddar wnaeth arwain at gau Ysgol Uwchradd Cwmcarn ar ôl darganfod asbestos ar safle’r ysgol.

Peryglon Iechyd 

Mwyn ffibrog naturiol yw asbestos a gafodd ei ddefnyddio at ddibenion masnachol am ryw 150 o flynyddoedd. Cafodd ei ddefnyddio’n eang, yn benodol, fel deunydd adeiladu ym Mhrydain Fawr o’r 1950au hyd at ganol y 1980au. Mae’n debyg y bydd llawer o ysgolion a gafodd eu hadeiladu, eu hymestyn neu eu hadnewyddu yn y cyfnod hwnnw yn cynnwys asbestos ar ryw ffurf neu’i gilydd. Mae rheoliadau statudol llym yn eu lle bellach ynghylch defnyddio asbestos neu ymyrryd ag asbestos neu ddeunyddiau sy’n ei gynnwys. Mae deunyddiau asbestos sydd mewn cyflwr da yn ddiogel oni bai y bydd ffibrau asbestos yn cael eu rhyddhau i’r aer fel y gall ddigwydd pan fydd y deunydd yn cael ei ddifrodi.

Gall ffibrau asbestos, pan fyddant yn yr aer a phan gânt eu hanadlu i mewn, achosi clefydau difrifol. Mae anadlu i mewn lefelau uchel o ffibrau asbestos yn cynyddu’r risg o ddatblygu clefyd o’r fath. Mae’r risg hefyd yn uwch o ddod i gysylltiad yn rheolaidd ag asbestos, fel y gall ddigwydd yn achos gweithwyr cynnal a chadw/adeiladu wrth eu gwaith.

Yn y briff a roddodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i’m hadran dywedwyd bod y data sydd ar gael yn awgrymu mai ychydig o risg sylweddol sy’n bodoli a hynny ar lefel isel iawn; yn ôl y profion a wnaed am lefelau ffibrau yn yr aer yn yr adeiladau hynny lle mae’r asbestos yn cael ei reoli’n briodol, mae lefel y ffibrau sy’n cael eu rhyddhau i’r aer yn isel iawn; a chyn belled ag y bo’r asbestos yn cael ei reoli’n briodol, nid yw’n debygol y bydd risg i athrawon na disgyblion wrth iddynt ymgymryd â’u gwaith a’u gweithgareddau arferol ym Mhrydain Fawr.

Yn y briff, dywed yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch hefyd nad oes tystiolaeth i ddangos bod cyfraddau canser yn gysylltiedig ag asbestos ymhlith athrawon yn sylweddol uwch na’r cyfraddau ymysg poblogaeth Prydain Fawr yn ei chyfanrwydd. Cyhoeddwyd astudiaeth ymchwil yn 2009 a gomisiynwyd ar y cyd gan Ymchwil Canser y Du a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch o dan arweiniad academydd annibynnol, a fu’n edrych ar set gyflawn o swyddi a ymgymerwyd gan unigolion drwy gydol eu hoes yn gweithio (yn hytrach na’r swydd olaf yn unig). Mae’r astudiaeth yn ategu’r farn nad yw athrawon ymhlith y grŵp uchel ei risg. Yn ôl yr astudiaeth a wnaed ar achosion rheoledig mae’r bobl hynny a fu’n gweithio gyda chynhyrchion asbestos yn y diwydiant adeiladu yn y 1960au a’r 1970au ymhlith y rhai sydd â risg arbennig o uchel o ddatblygu mesothelima; clefyd sy’n deillio’n benodol o asbestos. Cyngor yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yw mai’r rheini sydd â’r risg uchaf o ddod i gysylltiad ag asbestos yw’r bobl hynny sy’n gweithio yn y maes adeiladu/cynnal a chadw.

Mae sawl darn o ddeddfwriaeth yn bodoli eisoes mewn perthynas ag asbestos.

Yn dilyn cyfles o archwiliadau mewn sampl o ysgolion y tu allan i reolaeth awdurdodau lleol ar draws Prydain Fawr yn 2010/11, crynhowyd canfyddiadau’r archwiliadau a wnaed gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn bedair neges allweddol. Dyma eu pwysleisio a’u nodi fel a ganlyn:

  • Mae’n bwysig iawn bod ysgolion yn gwbl glir ynghylch pwy yw deiliad y ddyletswydd;
  • Dylai ysgolion sicrhau bod ganddynt gynllun yn ymwneud yn benodol ag asbestos ar gyfer adeiladau’r ysgol;
  • Mae’n gwbl hanfodol bod unrhyw un a allai fod wedi niweidio’r asbestos yn gwybod am ei fodolaeth yn y lleoliad hwnnw ac am ei gyflwr; a
  • Bod hyfforddiant digonol yn cael ei roi i’r holl staff mewnol.

Ysgolion yng Nghymru

Ers cau Ysgol Uwchradd Cwmcarn bu llawer o drafod ynghylch asbestos mewn ysgolion yng Nghymru.

Deallaf yn llwyr bryderon Aelodau’r Cynulliad ac yn wir y pryderon a fynegwyd gan rieni a phobl sy’n gweithio yn ein hysgolion. Nid yw cael gwared ag asbestos o bob ysgol yng Nghymru gyfan yn ymarferol fodd bynnag. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi dweud yn ddieithriad mai’r ffordd orau o ddelio ag asbestos sydd mewn cyflwr heb ei ddifrodi ac sy’n annhebygol o gael ei ddifrodi yw ei adael lle y mae, ei ddiogelu rhag ei ddifrodi a’i reoli er mwyn atal unrhyw ddifrod ac er mwyn sicrhau na ddaw neb i gysylltiad ag ef.

Wedi dweud hynny, o ganlyniad i Raglen Gyfalaf Llywodraeth Cymru sef Ysgolion ar gyfer y 21ain Ganrif, mae gwaith buddsoddi cyfalaf sylweddol ar droed mewn ysgolion ledled Cymru gyda’r don gyntaf o fuddsoddiad o £1.4 biliwn yn cael ei thargedu at ysgolion sydd mewn cyflwr gwael. Bydd hyn yn adeiladu ar y swm o oddeutu £415 miliwn sydd eisoes yn cael ei fuddsoddi yn y seilwaith addysg yma yng Nghymru o dan y Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf Trosiannol. Bydd rhoi’r Rhaglen Ysgolion ar gyfer y 21ain Ganrif ar waith yn cymryd amser; yn y cyfamser mae angen i ni sicrhau bod asbestos yn cael ei reoli’n llym gan awdurdodau lleol.

Awdurdodau Lleol 

O ganlyniad i gau’r ysgol yn ddiweddar yng Nghwmcarn nid oes lle i laesu dwylo. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, awdurdodau lleol a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cwrdd â’i gilydd yn rheolaidd ac yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau eu bod yn deall y gofynion cyfreithiol a’r pwysigrwydd o fynd ati i reoli asbestos ar sail asesu’r risg. Fe’u hanogaf i barhau i weithio yn y modd yma ond gan ddyblu eu hymdrechion a gweithio’n fwy dyfal byth.

Wrth ymateb i’r sefyllfa yng Nghwmcarn gofynnais i’r Awdurdodau Lleol gadarnhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau statudol yn unol â’r ddeddfwriaeth ynghyd â chopïau o’r Cynlluniau Rheoli Asbestos a’r Cynlluniau Wrth Gefn (petai ysgolion yn cael eu cau). Yn sgil adolygiad a gynhaliwyd gan Ymgynghorwyr Iechyd a Diogelwch Llywodraeth Cymru y farn oedd mai amrywiol oedd yr ymatebion. O ganlyniad, ac ar sail yr ymatebion a dderbyniwyd, nid wyf wedi fy sicrhau’n ddigonol ar hyn o bryd bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau statudol o ran rheoli asbestos nac yn sicrhau bod cynlluniau digonol yn eu lle. Fy mwriad, felly, yw gofyn i awdurdodau lleol sicrhau bod Penaethiaid a Chyrff Llywodraethu yn gwybod am eu rhwymedigaethau a’u dyletswyddau mewn perthynas â’r gofynion cyfreithiol a’u bod yn dilyn y canllawiau lle bo’r canllawiau hynny yn bodoli a hefyd eu bod wedi adolygu’r trefniadau yswiriant perthnasol ar gyfer eu hysgol. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion weithio gyda chynrychiolwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Undebau Athrawon ac unrhyw arbenigwyr perthnasol i sicrhau yr eir i’r afael â’r mater yma ar fyrder ac, wrth fynd ati i reoli asbestos, nad oes unrhyw gyfaddawdu o ran diogelwch dysgwyr nac athrawon.

Yr Ysgolion

Yr elfen bwysicaf wrth atal rhyddhau ffibrau asbestos yw’r camau sy’n cael eu cymryd yn yr ysgolion eu hunain. Hyd yn oed lle bo’r cynlluniau rheoli asbestos gorau a’r staff cymwys i ddelio ag asbestos yn eu lle o fewn yr awdurdodau lleol, gall problemau godi os nad yw’r ysgol ei hun yn dilyn y gweithdrefnau. Mae bod yn ymwybodol o asbestos a’r rheidrwydd i’w reoli o’r pwys pennaf. Mae trefnu hyfforddiant ar gyfer pob aelod o staff ysgolion a’r Cyrff Llywodraethu yn holl bwysig fel y bydd y gweithdrefnau cywir yn cael eu dilyn, er enghraifft, pan fydd gwaith ar droed yn yr ysgol.

Mae’n bwysig nodi pwy yn union yw deiliad y Ddyletswydd, neu’r person enwebedig, yn yr ysgol fel nad oes unrhyw amheuaeth pwy sy’n gyfrifol yn yr ysgol am sicrhau bod y gofynion cyfreithiol a’r canllawiau yn cael eu dilyn. Rhaid pennu’n glir pwy sy’n gyfrifol a beth yn union yw eu dyletswyddau ar bob lefel yn yr ysgol.