Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021



Wedi dweud hynny, hyd nes y daw’r Ddeddf i rym, mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio â’u dyletswyddau yn unol â Deddf Addysg 1996 a Chod Ymarfer AAA Cymru.

I sicrhau bod gwasanaethau ac ymarferwyr yn glir ynghylch sut rydym yn disgwyl iddynt symud o un system statudol i un arall, byddwn yn cyhoeddi canllawiau manwl ar weithredu yn ystod yr haf i egluro’r amserlenni ar gyfer cyflwyno cynlluniau datblygu unigol i bob carfan o ddysgwyr yn raddol.

Bydd gwaith arweinwyr trawsnewid yn cael ei gefnogi gan Grantiau Trawsnewid ADY. Bydd y grant yn cael ei rannu a’i ddyrannu i bob un o’r arweinwyr trawsnewid rhanbarthol yn seiliedig ar fformiwla; bydd hyn yn galluogi i bob rhanbarth dargedu’r arian fel y nodir yn eu cynllun gweithredu rhanbarthol.

Bydd y cynlluniau yn cael eu datblygu ar y cyd â chyrff statudol allweddol yn y rhanbarth sydd â dyletswyddau o dan y Ddeddf. Bydd hyn yn seiliedig ar ddadansoddi tystiolaeth yn dangos pa mor barod ydynt i roi elfennau allweddol y system newydd ar waith, i’w datblygu drwy hunanasesiadau o barodrwydd a thrafodaethau wedi’u hwyluso gan arweinwyr trawsnewid.

Mae gan bob un o’r arweinwyr trawsnewid rhanbarthol y dasg o ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer eu rhanbarth, a bydd yr arweinydd trawsnewid addysg bellach yn datblygu cynllun gweithredu ar gyfer y sector addysg bellach. Bydd y cynlluniau hyn yn nodi’r camau y cytunwyd arnynt sy’n ofynnol i sicrhau bod yr ymarferion a’r prosesau angenrheidiol ar waith cyn cyflwyno’r Ddeddf yn raddol.

Rwy’n disgwyl gweld yr arweinyddion trawsnewid yn rhannu’r wybodaeth honno ac yn cydweithio i sicrhau bod gwasanaethau yn barod i roi’r system newydd ar waith pan ddaw’r amser. Mae’n hollbwysig ein bod yn gwneud pethau’n iawn er mwyn i ddysgwyr allu manteisio ar y system newydd mewn modd mor ddi-dor â phosibl.

Byddant yn darparu cymorth ac yn herio awdurdodau lleol, ysgolion, lleoliadau blynyddoedd cynnar a sefydliadau addysg bellach a byddant hefyd yn cydgysylltu’r gwaith o roi hyfforddiant ar y Ddeddf ar waith yn raddol, codi ymwybyddiaeth a hwyluso gwelliannau mewn gwaith amlasiantaethol.

Bydd gan y swyddi hyn rôl hollbwysig yn ein strategaeth weithredu gyffredinol drwy sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cefnogi ac yn barod i ddarparu’r system ADY newydd.

• Bydd Chris Denham yn ymgymryd â rôl arweinydd trawsnewid Addysg Bellach ar ôl gweithio i Goleg Gwent yn y maes Anghenion Dysgu Ychwanegol.

• Bydd Tracey Pead yn aros yn y De-ddwyrain ar ôl arwain y tîm Cymorth Disgyblion yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen; a

• Bydd Liz Jones, cyn Brif Seicolegydd Addysg o Flaenau Gwent yn parhau i weithio yn rhanbarth Canolbarth y De;

• Bydd cyn arolygydd Estyn arall, Huw Davies yn gweithio yn rhanbarth y Gorllewin;

• Bydd Margaret Davies, cyn arolygydd Estyn, yn gweithio yn rhanbarth y Gogledd;

Heddiw, rwy’n cyhoeddi penodiad pum arweinydd trawsnewid ADY yn dilyn proses recriwtio agored a chystadleuol. Bydd pedwar arweinydd trawsnewid yn gweithio’n rhanbarthol, ar sail y consortia addysg rhanbarthol, a bydd un yn gweithio fel arweinydd trawsnewid ym maes addysg bellach. Dyma’r manylion:

Rwyf wedi ystyried yn ofalus y ffordd orau o gefnogi partneriaid darparu i roi’r system ADY newydd ar waith a hefyd sicrhau newid diwylliannol i gyflawni’r dyletswyddau a nodir yn y Ddeddf.

Mae trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol yn elfen allweddol o’n rhaglen gyffredinol i ddiwygio addysg, fel y nodir yn ‘Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl’. Ar 12 Rhagfyr 2017, pasiwyd Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn unfrydol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac aeth ymlaen i ddod yn Ddeddf ar ôl derbyn Cydsyniad Brenhinol ar 24 Ionawr 2018. Mae hon yn garreg filltir allweddol ar y daith i drawsnewid ond mae’r her go iawn o drawsnewid yn dechrau’n awr.

Mae’r Llywodraeth hon yn ymrwymedig i ddarparu system addysg gwbl gynhwysol, lle mae plant a phobl ifanc yn cael eu hysbrydoli, eu cymell a’u cefnogi i wireddu eu potensial.