Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r datganiad ysgrifenedig hwn yn disgrifio’r sefyllfa ddiweddaraf ynghylch pennu terfynau cyflymder lleol ar ffyrdd yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau gwrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd, a datblygu amgylcheddau mwy diogel i bawb sy’n defnyddio’r ffyrdd, o fewn system ffyrdd sy’n cryfhau cymunedau gwledig ac sy’n helpu i wireddu amcanion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach.  Mae gan derfynau cyflymder ran bwysig iawn i’w chwarae o ran rheoli cyflymder yn effeithiol ac annog, helpu a gorfodi defnyddwyr ffyrdd i deithio ar gyflymder addas a diogel.

Cyhoeddwyd arweiniad ar sut i bennu terfynau cyflymder lleol yng Nghymru ym mis Hydref 2009.  Roedd yr arweiniad yn gofyn i awdurdodau priffyrdd (22 awdurdod priffyrdd lleol a Llywodraeth Cymru fel awdurdod cefnffyrdd) i adolygu’r terfynau cyflymder ar eu holl ffyrdd dosbarth A a B.

Mae’r arweiniad yn gofyn yn benodol i awdurdodau priffyrdd sicrhau eu bod yn ystyried barn a phryderon cymunedau wrth gynnal yr adolygiad.  O safbwynt Llywodraeth Cymru, mae hynny’n golygu ystyried pob gohebiaeth â chymunedau am gyflymder a diogelwch wrth gynnal yr adolygiadau.  Mae gofyn hefyd ystyried data am wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd.  Daw’r adolygiad o derfynau cyflymder ar y rhwydwaith cefnffyrdd i ben ddiwedd mis Rhagfyr 2014.

Bydd unrhyw newidiadau posibl i’r terfynau cyflymder yn yr adolygiad yn destun ymgynghoriad â’r cyhoedd a’r Cynghorau Cymuned.