Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Asiantaeth weithredol yw'r Arolygiaeth Gynllunio sy'n cael ei hariannu gan ac yn atebol i Lywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Mae adran Gymreig yr Arolygiaeth yng Nghaerdydd yn rheoli achosion cynllunio, a cheisiadau ac apelau cysylltiedig, gan gynnwys Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol. Gan ddefnyddio tîm penodedig o Arolygwyr a gweinyddwyr, mae'r adran hefyd yn archwilio Cynlluniau Datblygu Lleol sy'n nodi polisïau cynllunio defnydd tir ac y seilir penderfyniadau ar geisiadau cynllunio lleol arnynt.

Fis Tachwedd diwethaf, ymrwymodd y cyn Weinidog Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Lesley Griffiths AC yn y Senedd y byddai'n ystyried a oes angen Arolygiaeth Gynllunio ar wahân i Gymru.

Mae'r Arolygiaeth yn gorfod gweithio fwyfwy â dwy drefn ddeddfwriaethol a chanddynt flaenoriaethau ac amcanion cynllunio gwahanol. Mae cyfraith a pholisi cynllunio wedi gwahanu ac yn parhau i wahanu'n gyflym oddi wrth gyfraith a pholisi Lloegr, er mwyn diwallu anghenion unigryw cymunedau a busnesau Cymru. Rydym wrthi hefyd yn crynhoi ac yn uno’r gyfraith gynllunio yng Nghymru i greu cod cynllunio ar wahân i Gymru.

Ym mis Ebrill, cawsom ysgwyddo'r cyfrifoldeb am ganiatáu prosiectau ynni hyd at 350 Megawatt ar dir a dyfroedd tiriogaethol Cymru a'n nod yw gweld pob penderfyniad ynghylch prosiectau seilwaith ynni yng Nghymru yn cael ei wneud yng Nghymru.

Am hynny, rwyf wedi dweud wrth fy swyddogion i ddechrau gweithio ar wasanaeth penodol ar wahân i Gymru. Rwy'n sylweddoli bod angen sicrhau na fyddwn, wrth greu'r gwasanaeth newydd, yn tarfu nac yn arafu cynlluniau seilwaith, apelau cynllunio na'n gwaith o archwilio cynlluniau datblygu lleol. Rhaid gofalu na fydd cymunedau a busnesau'n colli ffydd yng ngallu’r system gynllunio i weithredu.

Bydd swyddogion yn cydweithio â'r Arolygiaeth Gynllunio i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen ar gyfer y corff newydd, gan ddiogelu yr un pryd enw da adran Gymreig yr Arolygiaeth Gynllunio am uniondeb a rhagoriaeth ac am wneud penderfyniadau yn unol â thargedau Llywodraeth Cymru.