Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, mae adolygiad annibynnol a gynhaliwyd o'r camau a gymerwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg rhwng 2011 a 2013 mewn perthynas ag achos Kris Wade yn cael ei gyhoeddi gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Rhwng 2011 a 2013, gwnaeth tair menyw a oedd yn gleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg honiadau o gam-drin rhywiol yn erbyn Kris Wade, un o gyflogeion y Bwrdd Iechyd.
Cafodd ei arestio wedi hynny a'i gael yn euog o lofruddiaeth yn 2016. Adeg ei arestio, roedd yn cael ei gyflogi gan y Bwrdd Iechyd ond nid oedd yn gweithio gyda chleifion oherwydd iddo gael ei ddiarddel o'i waith. O ganlyniad i'r honiadau o gam-drin, roedd wedi cael ei ddiarddel ers 2012 gan ddisgwyl canlyniad ymchwiliad disgyblu'r Bwrdd Iechyd.
Wedi iddo gael ei euogfarnu, cynhaliwyd ymchwiliad mewnol gan y Bwrdd Iechyd o'r digwyddiadau i ystyried sut yr oedd wedi ymdrin â'r cyhuddiadau a wnaed gan ei gleifion a'r broses ddisgyblu a ddaeth wedi hynny. Daeth adolygiad y Bwrdd Iechyd i'r casgliad bod diffygion yn ei brosesau a phennwyd cynllun gweithredu ar gyfer gwella.
Gofynnais i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gynnal adolygiad arbennig er mwyn cael sicrwydd bod y camau priodol wedi cael eu nodi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a bod trefniadau effeithiol wedi cael eu rhoi ar waith ar ôl hynny ar draws y sefydliad i fonitro'r modd y mae unrhyw newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau yn cael eu rhoi ar waith.
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi nodi'r gwendidau canlynol:
- Trefniadau llywodraethu ansawdd a diogelwch
- Diogelu oedolion
- Adrodd ar ddigwyddiadau
- Trefniadau recriwtio a chyflogaeth staff
Mae'r materion sy'n gysylltiedig â threfniadau llywodraethu ansawdd a diogelwch yn arbennig o siomedig gan fod yr adroddiad Ymddiried mewn Gofal wedi tynnu sylw at faterion tebyg.
Mae'r Arolygiaeth yn cadarnhau bod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud newidiadau i wella ei strwythur llywodraethu ac adrodd, yn arbennig o ran uwchgyfeirio pryderon i lefel bwrdd a rhannu dysgu ar lefel weithredol drwy'r Bwrdd Iechyd cyfan. Fodd bynnag, mae angen i'r cynnydd ar y mater hwn gan y Bwrdd Iechyd ddigwydd yn gyflymach.
Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg dîm gweithredol newydd ac rwyf wedi cael sicrwydd eu bod yn gwneud gwelliannau yn y meysydd a amlygwyd gan yr Arolygiaeth a'u bod wedi ymrwymo i sicrhau bod ansawdd a diogelwch gofal a ddarperir i gleifion wrth galon pob dim sy'n cael ei wneud.
Gwneir 24 o argymhellion yn yr adroddiad, a chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw gweithredu tri ohonynt ar sail Cymru gyfan.
Disgwyliaf i'r Bwrdd Iechyd ystyried canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad hwn yn llawn, a sicrhau eu bod yn cael sylw, ac ymwreiddio unrhyw newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau.
Bydd Uned Gyflawni'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn parhau i weithio gyda'r Bwrdd Iechyd i roi cymorth a sicrhau ei fod yn bodloni'r argymhellion yn llawn.
Rhaid i'r Bwrdd Iechyd roi sicrwydd ynglŷn â'i drefniadau llywodraethu ansawdd a diogelwch, gan gynnwys rhai pryderon ynghylch diogelu. Bydd hyn yn cael ei wirio gan broses arolygu.
Ar lefel Cymru gyfan, rwy'n derbyn y tri argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru yn llawn.
Mae diogelwch cleifion yn hollbwysig ac mae'n hanfodol bod prosesau diogelu a llywodraethu cadarn yn eu lle i ddiogelu oedolion sydd mewn perygl.
Er mwyn diogelu cleifion, mae’n hollbwysig bod gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cael eu cwblhau a'u hadnewyddu. Byddaf yn gofyn i gyflogwyr a phartneriaid cymdeithasol am gyngor ar fyrder am y dull mwyaf effeithiol o weithredu'r argymhelliad hwn ledled Cymru. Pan geir cytundeb ynglŷn â’r dull, bydd y mesurau hyn yn cael eu rhoi ar waith mor gyflym â phosibl.
Rwyf wedi gofyn eisoes i'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol weithio'r gyda'r Gwasanaeth Iechyd i wella ymhellach y mecanweithiau presennol ar gyfer rhannu'r hyn a ddysgwyd o ran diogelu.
Mae cynnydd da yn cael ei wneud gan Fyrddau Diogelu yng Nghymru o safbwynt y gwaith hwnnw, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, i ddarparu gweithdrefnau diogelu sy'n adeiladu ar y canllawiau statudol presennol. Byddaf yn gofyn i Fyrddau Diogelu ystyried canfyddiadau'r adroddiad hwn fel rhan o'u gwaith.
Disgwyliaf i bob bwrdd iechyd ystyried canfyddiadau ac argymhellion yr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn llawn.
Rwy'n siŵr y bydd hwn yn ddiwrnod anodd i'r menywod dan sylw, ac i'w teuluoedd. Rwy'n meddwl amdanynt ac rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am eu cyfraniad i'r adolygiad arbennig hwn.