Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae buddiannau disgyblion wrth wraidd rhaglen gwella ysgolion Her Ysgolion Cymru. Mae’n seiliedig ar y gred y gall pob plentyn gyflawni ac mae hyn yn rhywbeth yr wyf fi’n bersonol yn credu ynddo. Rhaid inni eu hysbrydoli i lwyddo drwy roi iddynt brofiadau sy’n agor eu llygaid i’r cyfleoedd sy’n bodoli tu hwnt i giatiau’r ysgol, eu cartrefi a’u cymunedau lleol. Mae cynyddu disgwyliadau, dyheadau ac uchelgeisiau personol disgyblion yn un agwedd bwysig ar yr Her.

Yn naws rhoi anogaeth i hyn, mae’n bleser gennyf gyhoeddi ‘Arlwy i’r Disgyblion’ Her Ysgolion Cymru. Wrth wneud hynny, rwyf yn gofyn i ysgolion Llwybrau Llwyddiant edrych yn fanwl ar eu cymunedau o ddysgwyr a dechrau treialu dulliau sy’n ehangu eu gorwelion, gan greu cyfleoedd i brofi gweithgareddau ystyrlon na fyddent fel arall wedi gallu cael mynediad atynt. Ar yr un pryd, rwy’n gofyn i sefydliadau partner wneud eu rhan – gwlad fechan yw Cymru ond mae ganddi amrywiaeth eang o sefydliadau sydd wedi ymrwymo i rannu eu sgiliau, eu gwybodaeth, eu hadnoddau a’u harbenigedd i sicrhau deilliannau gwell ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc.

Drwy weithio gyda’i gilydd, mae ysgolion a’u partneriaid mewn sefyllfa dda i gynnig ystod eang o weithgareddau i’w dysgwyr, gan eu helpu i gael mynediad at brofiadau newydd ym maes y celfyddydau, y gwyddorau, chwaraeon, ein diwylliant a’n treftadaeth unigryw, dysgu pellach a hyd yn oed yn y byd gwaith, i enwi dim ond ychydig.

Drwy gyflwyno’r ‘Arlwy i’r Disgyblion’ yn y cam hwn o’r rhaglen, rwy’n rhoi cyfle i Ysgolion Llwybrau Llwyddiant arbrofi, er mwyn canfod beth sy’n gweithio orau iddynt hwy, cyn cyfuno eu dulliau gweithredu yn y flwyddyn academaidd ganlynol.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn i’r aelodau gael y wybodaeth ddiweddaraf. Os hoffai’r aelodau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn ail-agor, byddwn yn fodlon gwneud hynny.